| (Gwyneth) {Yn gweiddi.} | |
| (Morris) Arglwydd, ma' hi'n brimin yma. | |
| (1, 0) 363 | 'Dw i ddim yn codi bwganod. |
| (Morris) Fydd 'na ddim gwrthwynebiad. | |
| (Morris) Bydda'n amyneddgar. | |
| (1, 0) 536 | Chytunan nhw byth, Morris. |
| (Morris) Y? | |
| (Morris) Y? | |
| (1, 0) 538 | Ro'n nhw byth dragwyddol sêl bendith ar y fath beth. |
| (Morris) {Yn flin.} | |
| (Morris) Yli, am y tro dwytha, 'nes i ddim gofyn iti ddwad yma i godi bwganod, Arwyn. | |
| (1, 0) 541 | Wnân nhw ddim. |
| (1, 0) 542 | Coelia di fi. |
| (Morris) Wedi gneud ma'n nhw. | |
| (Morris) A dyna ddiwadd arni. | |
| (1, 0) 548 | Cwrs golff drws nesa i fynwant? |
| (Morris) Pa wahania'th 'neith hynny? | |
| (Morris) Dydi'r ffernols sy'n y fynwant 'na ddim yn mynd i falio rhyw lawar nac ydyn? | |
| (1, 0) 554 | Paid â rhygyfu. |
| (Morris) Be ti'n feddwl, rhyfygu? | |
| (Morris) Cofia di hynny. | |
| (1, 0) 562 | Mi dynni di nyth cacwn yn dy ben. |
| (Morris) A phwy sy'n mynd i wrthwynebu? | |
| (Morris) Twt lol! | |
| (1, 0) 574 | A hogia'r iaith 'ma. |
| (1, 0) 575 | Be am rheini? |
| (Morris) Pa fusnas ydi o iddyn nhw? | |
| (Morris) Pa fusnas ydi o iddyn nhw? | |
| (1, 0) 577 | Traddodiad. |
| (1, 0) 578 | Treftadaeth a ballu. |
| (Morris) Pam ddiawl na wnân nhw ddechra mynychu'r llefydd 'ma os ydyn nhw'n golygu cymaint iddyn nhw? | |
| (Morris) Pam ddiawl na wnân nhw ddechra mynychu'r llefydd 'ma os ydyn nhw'n golygu cymaint iddyn nhw? | |
| (1, 0) 580 | A'r boi 'na sy'n sgwennu yn Y Tŵr. |
| (1, 0) 581 | Mi fydd yn fêl ar fysadd hwnnw bydd? |
| (Morris) Pwy sy'n darllan rwts hwnnw? | |
| (Morris) Pwy sy'n darllan rwts hwnnw? | |
| (1, 0) 583 | Mwy nag wyt ti'n feddwl. |
| (1, 0) 584 | Cofio'r helynt gaethon ni efo'r parc 'na bum mlynadd yn ôl? |
| (Morris) Ia, ia... | |
| (Morris) Ia, ia... | |
| (1, 0) 586 | Fo wthiodd y cwch i'r dŵr. |
| (1, 0) 587 | Llythyru, deisebu, protestio a hynny am fisoedd dallta. |
| (Morris) Ond ca'l y maen i'r wal 'naethon ni, te? | |
| (Morris) Ond ca'l y maen i'r wal 'naethon ni, te? | |
| (1, 0) 589 | Ia, e'lla. |
| (Morris) Y twll cynta? | |
| (Morris) Mi fydd y tee wrth y giât bella'. | |
| (1, 0) 598 | Pam wyt ti wedi marcio fan'ma? |
| (1, 0) 599 | Pa dwll fydd hwn? |
| (Morris) Y pedwerydd. | |
| (Morris) Wel, na dim problem chwaith. | |
| (1, 0) 606 | Pam? |
| (1, 0) 607 | Be sy? |
| (Morris) 'Dw isio'i lle hi i'r green. | |
| (Morris) 'Dw isio'i lle hi i'r green. | |
| (1, 0) 609 | Fedri di ddim statu honno? |
| (Morris) Ma' hi ar y ffordd, tydi? | |
| (Morris) Ma' hi ar y ffordd, tydi? | |
| (1, 0) 611 | Ydi hynny o dragwyddol bwys? |
| (Morris) Lle arall roi'r green? | |
| (Morris) Mi 'dan ni'n dallt yn gilydd? | |
| (1, 0) 626 | 'Dw i'n gaddo dim. |
| (Morris) Wyt, gobeithio. | |
| (Morris) Mi fydda' i'n dy ffonio di o Leamington nos Ferchar. | |
| (1, 0) 629 | O, ia, wrth gwrs. |
| (1, 0) 630 | Mi fyddi di'n fanno, byddi? |
| (Morris) Chdi, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, awgrymodd 'mod i'n mynd. | |
| (Morris) Chdi, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, awgrymodd 'mod i'n mynd. | |
| (1, 0) 632 | Ia, wel, rhyw feddwl o'n i ma'r peth calla' fydda iti... |
| (Morris) ... beidio â bod yma pan eith hi'n dân? | |
| (Morris) ... beidio â bod yma pan eith hi'n dân? | |
| (1, 0) 634 | Rhaid bod yn ddoeth, rhaid? |
| (Morris) O, rhaid. | |
| (Gwyneth) Be ti'n da 'ma rŵan? | |
| (1, 0) 659 | Rhyw bicio draw. |
| (1, 0) 660 | Dyna'r cwbwl. |
| (Joyce) {Wrth MORRIS.} | |
| (Morris) Fasa ots gin ti? | |
| (1, 0) 665 | Be? |
| (Morris) Helpu Joyce i nôl y byrdda 'na. | |
| (Morris) Helpu Joyce i nôl y byrdda 'na. | |
| (1, 0) 667 | Dim o gwbwl. |
| (Joyce) {Wrth ARWYN.} | |
| (Joyce) {Exit JOYCE.} | |
| (1, 0) 672 | Rhy falch o ga'l gneud rwbath. |
| (Gwyneth) Edrach ymlaen at weld Nans... | |
| (1, 0) 676 | Be? |
| (Gwyneth) Nans. | |
| (Gwyneth) Ma' hi'n dwad heno gobeithio? | |
| (1, 0) 679 | O, ia. |
| (1, 0) 680 | Mi ddylwn i fod wedi deud wrth Morris 'ma. |
| (Morris) Deud be? | |
| (Morris) Deud be? | |
| (1, 0) 682 | Na fydd hi yma. |
| (Gwyneth) Pam? | |
| (Gwyneth) Pam? | |
| (1, 0) 684 | Wedi gorfod rhuthro i Warrington. |
| (Gwyneth) At Karen? | |
| (Gwyneth) At Karen? | |
| (1, 0) 686 | Ia. |
| (1, 0) 687 | Yr hogan 'cw. |
| (Gwyneth) Ma'n ddrwg gin i Arwyn. | |
| (Gwyneth) Y babi. | |
| (1, 0) 691 | Ia. |
| (1, 0) 692 | Y babi. |
| (Gwyneth) Dydi o ddim i fod i gyrra'dd unrhyw funud? | |
| (Gwyneth) Dydi o ddim i fod i gyrra'dd unrhyw funud? | |
| (1, 0) 694 | Ydi. |
| (Gwyneth) O. | |
| (Gwyneth) Be sy'n digwydd? | |
| (1, 0) 711 | Dim, hyd y gwn i. |
| (Gwyneth) Mi fydd 'na firi eto ma' siŵr, bydd? | |
| (Gwyneth) Mi fydd 'na firi eto ma' siŵr, bydd? | |
| (1, 0) 713 | 'Dw i ddim yn meddwl. |
| (Gwyneth) Arwyn? | |
| (Gwyneth) Arwyn? | |
| (1, 0) 715 | Na fydd. |
| (1, 0) 716 | Wir rŵan. |
| (Gwyneth) Wy'st ti be? | |
| (Gwyneth) Mae o'n mynd i ada'l llonydd iddi tydi, Arwyn? | |
| (1, 0) 725 | Lle ddeudodd Joyce o'dd y bwrdd 'na? |
| (1, 0) 726 | Y rhiwal ia? |
| (Gwyneth) Yn tydi, Arwyn? | |
| (Gwyneth) Yn tydi, Arwyn? | |
| (1, 0) 728 | Drws nesa i'r hen feudy ma' hwnnw, os 'dw i'n cofio'n iawn. |
| (Gwyneth) Y champagne? | |
| (Gwyneth) Ma' rhywun wedi bod wrthi. | |
| (1, 0) 917 | Y gist 'na. |
| (1, 0) 918 | Ma' hi'n llawn o ryw hen gelfi. |
| (Gwyneth) Ma' arna' i isio sgwrs iawn efo chdi. | |
| (1, 0) 922 | Fi? |
| (Gwyneth) Paid ag edrach mor ddiniwad 'nei di. | |
| (1, 0) 929 | Yli, fel hen ffrind, 'dw i am roid gair o gyngor iti. |
| (1, 0) 930 | Taswn i'n dy le di mi faswn i'n anghofio am hyn. |
| (1, 0) 931 | 'Dan ni'n dau'n rhy hen i dynnu rhyw hen helynt i'n penna. |
| (1, 0) 932 | Ro'dd Nans a finna'n ca'l rhyw sgwrs bach noson o'r blaen. |
| (1, 0) 933 | 'Dan ni'n dau wedi bod bum mlynadd ar hugain ar ryw gyngor ne'i gilydd. |
| (1, 0) 934 | Nans druan wedi cyfri'r blynyddo'dd. |
| (1, 0) 935 | E'lla y dylan ni'n dau ga'l rhyw hoe bach. |
| (1, 0) 936 | Rhoid lle i rywun fengach... |
| (1, 0) 937 | Ca'l tawelwch yn y tŷ. |
| (1, 0) 938 | Dim ffôn yn canu o fora gwyn tan nos. |
| (1, 0) 939 | 'Dw i 'di gofyn am ymddeoliad cynnar o'r ysgol 'na. |
| (1, 0) 940 | Ma'n nhw'n rhoi tua deng mlynadd dyddia yma. |
| (1, 0) 941 | Ydyn, rhyw ddeng mlynadd. |
| (1, 0) 942 | Yr hen gwricwlwm cenedlaethol 'ma. |
| (1, 0) 943 | Poen enaid a dim byd arall. |
| (1, 0) 944 | Melltith. |
| (1, 0) 945 | Symud yn nes at Karen e'lla. |
| (1, 0) 946 | Mi fydd hi angen help efo'r babi 'ma. |
| (1, 0) 947 | Am gario mlaen i nyrsio medda hi... |
| (1, 0) 948 | Helpu efo'r mortgage a ballu, wy'st ti?... |
| (1, 0) 949 | na, 'dw isio i'r peth bach ddwad i 'nabod i... |
| (1, 0) 950 | Ma' rhywun yn haeddu tawelwch, tydi? |
| (1, 0) 951 | Tawelwch yn rhwbath... |
| (1, 0) 952 | Be fydda'r gair hwnnw y bydda Wilias sgŵl yn 'i ddysgu inni stalwm. |
| (1, 0) 953 | Amheuthun? |
| (1, 0) 954 | Ia. |
| (1, 0) 955 | Amheuthun. |
| (1, 0) 956 | Tawelwch yn rhwbath amheuthun. |
| (Morris) Da i rwbath? | |
| (Morris) Da i rwbath? | |
| (1, 0) 958 | Mm? |
| (Morris) Hon? | |
| (Morris) Hon? | |
| (1, 0) 961 | O... |
| (1, 0) 962 | Ydi... |
| (1, 0) 963 | Siŵr o fod. |
| (Morris) Cystal â'r Glenmorangie? | |
| (Morris) Y? | |
| (1, 0) 966 | Ydi... meddan nhw. |
| (Morris) Hogan Dic Pandy ddim cymaint o hulpan ag o'n i'n feddwl, felly? | |
| (Morris) Hogan Dic Pandy ddim cymaint o hulpan ag o'n i'n feddwl, felly? | |
| (1, 0) 968 | Be ddeuda i wrthi? |
| (Morris) Pwy? | |
| (Morris) Pwy? | |
| (1, 0) 970 | Gwyneth. |
| (Morris) Ynglŷn â be? | |
| (Morris) Ynglŷn â be? | |
| (1, 0) 972 | Y boncan. |
| (Morris) Ydi hi wedi bod yn mulo am honno eto? | |
| (Morris) Ydi hi wedi bod yn mulo am honno eto? | |
| (1, 0) 974 | Does dim rhaid ca'l gwarad ohoni, nac oes? |
| (Morris) {Yn ddig.} | |
| (Morris) Wel, wel. | |
| (1, 0) 981 | Mi cornelith fi. |
| (1, 0) 982 | Ti'n 'i nabod hi'n ddigon da. |
| (1, 0) 983 | Be ddeuda i? |
| (Morris) Tywallt olew ar y dyfroedd yn ôl dy arfar. | |
| (1, 0) 996 | Ro'dd hwn yn yr hen gist 'na... |
| (1, 0) 997 | I be mae o'n da? |
| (Morris) Cwpan dena. | |
| (Morris) Fydda'r hen wraig 'y mam yn 'i hiwsio hi i drin menyn ers talwm. | |
| (1, 0) 1000 | O, ia. |
| (1, 0) 1001 | Cofio rŵan. |
| (1, 0) 1002 | Be haru mi? |
| (Morris) Dos â'r diawl peth o'ma. | |
| (Morris) Presant bach i Nans. | |
| (1, 0) 1005 | Na, na chwara teg. |
| (Morris) {Yn flin.} | |
| (Morris) Be ma' hi'n da i mi? | |
| (1, 0) 1008 | Yma ma'u lle nhw. |
| (1, 0) 1009 | Creiria'r hen gyff. |
| (Morris) {Yn ddig.} | |
| (Joyce) Lle ma'r byrdde 'na? | |
| (1, 0) 1016 | Ma'n ddrwg gin i Joyce. |
| (Morris) {Wrth JOYCE.} | |
| (Morris) Pwyll! | |
| (1, 0) 1087 | Iawn. |
| (1, 0) 1088 | Iawn. |
| (Morris) Gafa'l ynddyn nhw! | |
| (Morris) Gafa'l ynddyn nhw! | |
| (1, 0) 1090 | Tydw i'n gneud. |
| (Morris) A rho dy law dano fo! | |
| (Morris) A rho dy law dano fo! | |
| (1, 0) 1092 | Be arall ti'n feddwl 'dw i'n drio'i 'neud? |
| (Morris) Fedri di 'neud rwbath heb gwyno d'wad? | |
| (Morris) Fedri di 'neud rwbath heb gwyno d'wad? | |
| (1, 0) 1094 | Lle ma' hi isio fo? |
| (Morris) 'D wn i'm duw. | |
| (Morris) Tara fo yn fan'ma. | |
| (1, 0) 1097 | Yn lle? |
| (Morris) Fan'ma. | |
| (Morris) Pwy uffar ma' hwnna'n feddwl ydi o? | |
| (1, 0) 1106 | Pwy? |
| (Morris) Hwnna'n fan'cw. | |
| (Morris) Yli arno fo. | |
| (1, 0) 1110 | O. |
| (1, 0) 1111 | Hwnna. |
| (Morris) Sefyll yn fanna'n rhythu ar bawb. | |
| (Morris) Be mae o isio? | |
| (1, 0) 1114 | Rhywun wedi colli'i ffordd e'lla. |
| (Morris) Drw'r chwaral 'na ma'n nhw dwad. | |
| (Morris) Y? | |
| (1, 0) 1124 | Ddo' i heibio tua'r saith 'ma, ia? |
| (Morris) Paid â'i gada'l hi'n rhy hwyr rŵan. | |
| (Morris) Paid â'i gada'l hi'n rhy hwyr rŵan. | |
| (1, 0) 1126 | Rhaid imi ffonio Nans gynta. |
| (1, 0) 1127 | Holi sut ma' pawb a ballu. |
| (Morris) Cofia fi ati... | |
| (Morris) A Karen hefyd. | |
| (1, 0) 1130 | Siŵr o 'neud. |
| (Morris) A ffonia'n criw ni heno hefyd tra wyt ti wrthi. | |
| (Ceinwen) Yncl Arwyn. | |
| (1, 0) 1155 | Falch o dy weld di 'mechan i. |