| (Lisa) Ia? | |
| (Lisa) Ia. | |
| (1, 0) 60 | Ffyc mi am dywydd. |
| (1, 0) 61 | O, sori, o'n i'n meddwl na fi o'dd y cynta yma. |
| (1, 0) 62 | Arwel dwi. |
| (Lisa) Lisa. | |
| (Aaron) Aaron. | |
| (1, 0) 65 | Da chi'n iawn gobeithio? |
| (1, 0) 66 | Wel, cystal a medar rhywun fod ia? |
| (Aaron) Ia. | |
| (Aaron) Ia. | |
| (1, 0) 68 | Criw da doedd? |
| (Aaron) O'n i jesd yn deud hynny, criw da iawn. | |
| (Aaron) O'n i jesd yn deud hynny, criw da iawn. | |
| (1, 0) 70 | Cystal teyrnged â'r un doedd. |
| (Aaron) Oedd. | |
| (Lisa) O'dd dy un di yn un dda... Arwel? | |
| (1, 0) 74 | Ia, diolch. |
| (1, 0) 75 | Fyddai'm yn un am sgwennu ond chwara teg, o'n i'n ffrindia gora... o'dd a ni'n ffrindia ers ysgol feithrin. |
| (Aaron) Felly o'n i'n dallt. | |
| (Aaron) Da o'dd stori'r tedi. | |
| (1, 0) 78 | Ia, rhen Ted. |
| (1, 0) 79 | Mae o dal gen i, y tedi. |
| (1, 0) 80 | Fyddai'm yn cysgu efo fo, sa hynny'n od basa, ond mae o gen i o hyd. |
| (1, 0) 82 | Mewn cwpwrdd lly, sentimental de, gin pawb gwpwrdd felly does. |
| (1, 0) 83 | Ella basia'i o'n mlaen. |
| (1, 0) 84 | Y tedi. |
| (1, 0) 85 | Dwi'n deud tedi lot braidd. |
| (1, 0) 86 | Sori. |
| (Lisa) Chdi o'dd yn nabod o hira masiwr. | |
| (Lisa) Chdi o'dd yn nabod o hira masiwr. | |
| (1, 0) 88 | Heblaw am 'i fam, ia, ella. |
| (1, 0) 89 | Gollodd o'i dad, ond da chi'n gwbod hynny masiwr... |
| (1, 0) 90 | Hen dlawd, oddi'n ffwc o sioc. |
| (Aaron) Debyg iawn. | |
| (Aaron) Debyg iawn. | |
| (1, 0) 92 | I bawb deud gwir. |
| (1, 0) 93 | Ta waeth, ma' 'na fwy ar y ffordd. |
| (1, 0) 94 | Mai'n oer 'ma braidd, rhoswch funud. |
| (1, 0) 96 | Ffyc it, tri bar am danni. |
| (Aaron) Dwi heb weld un o'r rheina ers blynyddoedd. | |
| (1, 0) 99 | Naddo? |
| (1, 0) 100 | Da 'di letrig ffeiar. |
| (1, 0) 103 | Yws. |
| (1, 0) 105 | Welish i gip arnti'n capal ond ches i'm cyfla... |
| (Ywain) O'n i'n gobeithio sa ti yma, ti'n cadw'n iawn? | |
| (Ywain) O'n i'n gobeithio sa ti yma, ti'n cadw'n iawn? | |
| (1, 0) 107 | Eitha de. |
| (1, 0) 108 | Sori, dwi'm yn nabod, y... |
| (Megan) Megan. | |
| (Megan) Megan. | |
| (1, 0) 110 | A dachi'n...? |
| (Megan) O, na, digwydd rhannu ymbarél wnaethon ni. | |
| (Ywain) Ywain. | |
| (1, 0) 117 | Ac Arwel dwi, dwi'n meddwl fod pawb yma yndi? |
| (Lisa) O'dd 'na restr? | |
| (Lisa) O'dd 'na restr? | |
| (1, 0) 119 | Mewn ffordd. |
| (1, 0) 120 | Hon ydi'r wêc. |
| (1, 0) 121 | Yn ôl be dwi'n ddallt does 'na neb arall. |
| (1, 0) 123 | A'r syniad ydi aros drw nos heno, ma' hon yma, ma' 'na fwy o stwff hefyd yn y ffrij. |
| (Aaron) O, wel, dwnim. | |
| (Lisa) A fi, gwylnos de. | |
| (1, 0) 129 | Ia. |
| (Aaron) Gwylnos? | |
| (Lisa) Neith corff ddim byd i chdi. | |
| (1, 0) 139 | Dwi'n gwbod fod o'n fyr rybudd, ac yn niwsans mewn ffordd, ond ffycin niwsans ydi'r busnas ma o un pen iddo fo i'r llall. |
| (1, 0) 140 | N'de? |
| (1, 0) 141 | Tasa ni'n onast lly. |
| (1, 0) 142 | Siŵr dduw fod na'm rhaid chi aros, ond do's na'm llawar ohona ni yma fel ma'i a peth lleia fedra i neud beth bynnag ydi ista 'ma heno am sbel. |
| (Megan) Sut na jesd ni sy 'ma? | |
| (Megan) Sut na jesd ni sy 'ma? | |
| (1, 0) 144 | Mi sgwennodd o betha i lawr. |
| (1, 0) 145 | Ddim byd swyddogol, ond mi oedd 'na damad o bapur a rhyw fanion erill. |
| (Aaron) O'dd o isio ni yma lly? | |
| (Aaron) O'dd o isio ni yma lly? | |
| (1, 0) 147 | Oedd, ni'n benodol. |
| (1, 0) 148 | Ond chi bia deud. |
| (Lisa) Dwi'n gêm. | |
| (Megan) O, god, y, rhyw fardd dwi'n meddwl. | |
| (1, 0) 183 | Dyma ni lwch, helpa dy hun Sbic. |
| (1, 0) 184 | A chitha fyd. |
| (Ywain) Odda chdi'n gwbod am y PhD ma Tanc? | |
| (Ywain) Odda chdi'n gwbod am y PhD ma Tanc? | |
| (1, 0) 188 | O'n, rhyw fardd ne wbath ia? |
| (1, 0) 189 | Fydda fo'n sôn weithia, dwi'm yn dallt rhyw betha fel'na. |
| (1, 0) 190 | Hold on rwan, rosa ni i Aaron ia? |
| (Ywain) Mond i ben bont o'dd isio fo fynd. | |
| (Megan) Na, gyrru. | |
| (1, 0) 194 | Ffeif and dreif ydi hi pen yma. |
| (1, 0) 195 | Ond chwara teg i chdi. |
| (1, 0) 196 | Ma' 'na sgwash yma'n rwla os leci di. |
| (Megan) Diolch. | |
| (Megan) A na, dwi'n iawn. | |
| (1, 0) 200 | Think, don't drink and drive. |
| (Lisa) Honna'n gynghanedd. | |
| (Lisa) Honna'n gynghanedd. | |
| (1, 0) 202 | Hawdd gweld sut es di'n ffrindia efo fo. |
| (1, 0) 203 | Dwi'n dallt dim am betha fel'na. |
| (Ywain) Na finna chwaith, dwi'm isio deud gwir, lol posh uffar. | |
| (Aaron) Gymra'i un bach efo chi, er cof. | |
| (1, 0) 210 | Da iawn, reit. |
| (Ywain) Be dduda ni? | |
| (Ywain) Be dduda ni? | |
| (1, 0) 213 | Er cof dwi'n meddwl. |
| (Pawb) Er cof. | |
| (Ywain) O'dd o'n wahanol doedd. | |
| (1, 0) 221 | M. |
| (Aaron) Sut lly? | |
| (Ywain) Dwnim, meddwl de, ia? | |
| (1, 0) 225 | Ia, o'dd o'n meddwl am betha ac yn deud rhyw betha doedd. |
| (1, 0) 226 | Yn wahanol lly, ac yn cîn yn r'ysgol de. |
| (Megan) O'dd o'n glyfar doedd. | |
| (Megan) O'dd o'n glyfar doedd. | |
| (1, 0) 228 | Odda chi'm yn weld o'n, wel, yn wahanol lly? |
| (Lisa) Ddim rili. | |
| (Lisa) Doni'm yn weld o'n od fatha chi. | |
| (1, 0) 235 | Ddudish i od? |
| (Lisa) Ddim yn uchal, naddo. | |
| (Lisa) Ddim yn uchal, naddo. | |
| (1, 0) 237 | Ddim bod o'n od, jesd, do'dd o'm yr un fath. |
| (Lisa) So od di hynna de. | |
| (Lisa) So od di hynna de. | |
| (1, 0) 239 | Nace! |
| (1, 0) 240 | Ma' od, wel, ma od yn deud mwy na gwahanol di. |
| (Ywain) O'dd o bach yn od. | |
| (Ywain) O'dd o bach yn od. | |
| (1, 0) 243 | Ffyc sêc. |
| (Ywain) Ddim mewn ffordd ddrwg. | |
| (Ywain) Ond pan odda ni'n blant, dwnim. | |
| (1, 0) 246 | Thalith hi ddim i siarad fel'ma. |
| (1, 0) 247 | Cradur. |
| (Aaron) Doni'm yn gwbod fod o/ | |
| (Megan) /na fi, ddim rili. | |
| (1, 0) 251 | Ia, wel. |
| (Lisa) Sut... | |
| (Lisa) Sori. | |
| (1, 0) 262 | Na. |
| (1, 0) 263 | Na, ma'n iawn i chdi holi, oni'n cymryd fod pawb yn gwbod ne ddim isio gwbod. |
| (Lisa) Wel, dwisio. | |
| (Aaron) A finna. | |
| (1, 0) 266 | Megan? |
| (1, 0) 268 | Reit, wel. |
| (1, 0) 269 | Y, ia. |
| (1, 0) 270 | Crogi. |
| (1, 0) 271 | Crogi nath o. |
| (Aaron) Shit. | |
| (Aaron) Shit. | |
| (1, 0) 278 | Dwi'm yn dallt bob dim cofiwch, jesd digwydd bod o'n i o gwmpas. |
| (1, 0) 279 | Dwi'm yn byw yn bell a mi a'th y ffôn, rhif tŷ fama o'dd o ac o'n i'n gweld hynny'n od braidd achos os bydda fo'n cysylltu ar me enger ne wbath fydda fo. |
| (1, 0) 280 | Ond i fam o o'dd yno, o'dd i mewn bach o stad deud gwir. |
| (1, 0) 281 | Oni'n methu dallt hi'n siarad. |
| (1, 0) 282 | A dwnim os na achos bo hi'n crio ac yn gweiddi o'dd hynny ta jesd achos na fi o'dd o. |
| (1, 0) 283 | Oni'n gwbod be o'dd. |
| (1, 0) 287 | Ac eniwe, nes i frysio yma, ac oddi dal ar y ffôn yn sgrechian sgrechian ac o'n i'n deud wrthi hi am ffonio'r pôlîs, ffoniwch am ambiwlans medda fi ond fedra hi neud un dim ond gweiddi a fedrwn i neud dim ond gwrando arni hi. |
| (Lisa) Dosna'm rhaid i chdi os ti'm isio. | |
| (Lisa) Dosna'm rhaid i chdi os ti'm isio. | |
| (1, 0) 290 | Dwi 'di dechra wan. |
| (1, 0) 291 | A dyma fi i'r iard a fano oedd hi yn dal y ffôn yn sbio arno fo. |
| (Ywain) Tŷ gwair o'dd o medda chdi. | |
| (Ywain) Tŷ gwair o'dd o medda chdi. | |
| (1, 0) 296 | Ia, yn hongian o'r distyn yn fan'o, a rhaff sa ti'n ddeud, rhaff go iawn lly am i wddw fo, ddim un blastig na'm byd felly. |
| (1, 0) 297 | Dwn i'm lle ffwc gath o honno. |
| (1, 0) 298 | O'dd 'na fwcad ar i hochor. |
| (1, 0) 299 | Ffycinhel fedrai weld o rŵan. |
| (1, 0) 300 | Bwcad o dan i draed o. |
| (1, 0) 301 | Rhaff am ei wddw fo, dwi'n gwbod bod hynna'n amlwg lly ond... |
| (1, 0) 302 | O'dd 'na olwg arno fo de, oddi wynab o'n ddu fel tasa fo di ca'l stîd. |
| (1, 0) 303 | O'dd o di bod yno ers sbel medda nhw wedyn. |
| (1, 0) 304 | Nes i dorri fo lawr a llacio'r rhaff a trio'r pethma, y CPR, ond dwi ond di weld o ar teledu ac oddi wynab o'n ddu ac o'dd o di chwdu a... |
| (1, 0) 308 | Ddoth 'na ambiwlans, dwni'm pwy o'dd 'di gofyn am dani os na fi ta... a mi drio nhw ond o'dd o'n oer. |
| (1, 0) 309 | O'dd o'n ffycin oer. |
| (Megan) Doni'm yn gwbod fod o. | |
| (Ywain) Na fina chwaith rili. | |
| (1, 0) 315 | Odda ti'n gwbod hanas ei dad o Sbic. |
| (Ywain) Soniodd neb 'tha i. | |
| (Ywain) Soniodd neb 'tha i. | |
| (1, 0) 317 | Odda chdi'n gwbod nad o'dd o'n iawn fyd. |
| (1, 0) 318 | Sut fedra ti beidio. |
| (Ywain) Ia ond, nes i 'rioed... | |
| (Lisa) Nathom ni'm siarad llawar. | |
| (1, 0) 329 | Ac o'n inna o fewn hannar milltir iddo fo. |
| (Lisa) O'dd o isio help dachi'n feddwl? | |
| (Aaron) Waeth ni heb a meddwl fel'na. | |
| (1, 0) 332 | Mai'n anodd iawn peidio. |
| (Megan) Chi be, gymra'i ddrinc, ga'i aros yn fam'a caf? | |
| (Megan) Chi be, gymra'i ddrinc, ga'i aros yn fam'a caf? | |
| (1, 0) 335 | Ma' 'na soffa, ma' 'na gadeiria, carpad faint fynnir. |
| (Ywain) Be gymri di? | |
| (Megan) Mai'n win ne'n rym. | |
| (1, 0) 338 | Do's na'r un o'r rheiny yma, dwi'n farman shit sori. |
| (Megan) Ma' 'na siop yn y pentra oes? | |
| (Megan) Ma' 'na siop yn y pentra oes? | |
| (1, 0) 340 | Rhaid ti frysio, ma' siop Magi Ann yn cau am ddeg. |
| (Megan) Siop Magi Ann? | |
| (Ywain) Yr OmniSaver ma'n feddwl. | |
| (1, 0) 344 | Be? |
| (Lisa) Siop Magi Ann, ma' fatha bochi'n byw mewn rhyw raglan S4C shit ne Midsummer Murders ne wbath. | |
| (Lisa) Magi Ann. | |
| (1, 0) 347 | Wel dyna o'dd i henw hi, cyn i Magi Ann farw. |
| (1, 0) 349 | A ma'n bwysig cadw'r petha ma. |
| (Ywain) Hen gont oddi. | |
| (Ywain) Hen gont oddi. | |
| (1, 0) 351 | Sut wydda ti? |
| (Ywain) Pawb yn sôn, golwg 'tha bo hi di ista ar ddildo weiran bigog arni hi, dyna fydda taid yn ddeud. | |
| (Ywain) A ma'r siop jips yn siop gebabs. | |
| (1, 0) 358 | Ei di yno'r un fath. |
| (Ywain) Sgin i fawr o ffycin ddewis nagos! | |
| (Ywain) 'Di mam ddim yn gneud swpar ar nos Wenar. | |
| (1, 0) 362 | O gei di bitsa, a cebab, a ffycin, y, pethma... / |
| (Megan) /Reis crispies/ | |
| (Megan) /Reis crispies/ | |
| (1, 0) 364 | /Reis crispies, ffyc off, calzone. |
| (1, 0) 365 | Dyna o'dd gen i. |
| (Aaron) Pitsa ydi calzone. | |
| (Aaron) Pitsa ydi calzone. | |
| (1, 0) 367 | Nace. |
| (Lisa) Ia, pitsa di blygu tha pasti. | |
| (Lisa) Ia, pitsa di blygu tha pasti. | |
| (1, 0) 369 | Wel dio'm yn bitsa felly nacdi. |
| (1, 0) 370 | Eniwe, ma' 'na ddewis, dyna o'dd gen i. |
| (1, 0) 371 | A ma'nwn gneud, y, ffish a chips r'un fath. |
| (Ywain) Dio'm r'un fath. | |
| (Ywain) Dio'm r'un fath. | |
| (1, 0) 373 | Sbic, welish i'r ffycin bobol yn cario'r ffreiars o siop Rich bach i'r lle cebabs dros ffordd a saff ti na'r un ffycin saim dio. |
| (Ywain) Nace. | |
| (Ywain) Nace. | |
| (1, 0) 375 | Garantîd. |
| (Ywain) Di'r, peth, di'r sgodyn ddim r'un fath. | |
| (Ywain) Dio'm cin neisiad, a ma'r chips yn deneuach, chips pacad. | |
| (1, 0) 380 | Gwranda/ |
| (Ywain) /a'r pys, di'r pys ddim r'un fath, o dunia ma' nhw'n dŵad. | |
| (Ywain) /a'r pys, di'r pys ddim r'un fath, o dunia ma' nhw'n dŵad. | |
| (1, 0) 382 | Sut wyddost ti? |
| (Ywain) Achos ma nhw fatha ffycin pys tun! | |
| (Ywain) Dio ddim r'un fath! | |
| (1, 0) 385 | Ma'n ddigon agos. |
| (Ywain) Nacdi! | |
| (Ywain) Nacdi! | |
| (1, 0) 388 | Wel yndi! |
| (1, 0) 389 | Ma'n iawn. |
| (Ywain) Nacdi! | |
| (Ywain) Nacdi! | |
| (1, 0) 391 | O pam Sbic? |
| (Ywain) Achos na ffycin pacis 'dy nhw! | |
| (Megan) Fedrai'm coelio bo chdi di deud hynna. | |
| (1, 0) 396 | Hold on rŵan. |
| (Aaron) Ti'm am ei amddiffyn o? | |
| (Aaron) Ti'm am ei amddiffyn o? | |
| (1, 0) 398 | Nacdw, jesd/ |
| (Lisa) /ti'n ei amddiffyn o! | |
| (Lisa) /ti'n ei amddiffyn o! | |
| (1, 0) 400 | Na! |
| (1, 0) 401 | Chei di'm deud petha fel'na Sbic. |
| (Ywain) Pam? | |
| (Ywain) Ond dyna ydyn nhw! | |
| (1, 0) 407 | Dodd o'm yn meddwl dim byd wrth ddeud/ |
| (Lisa) /So be, jesd am laff ti'n deud petha felna ia?/ | |
| (Ywain) /Dwi'n mynd am ffag. | |
| (1, 0) 414 | A'i ar ei ôl o. |
| (Aaron) Waw. | |
| (Megan) Dwi 'di ca'l gair efo nhw, ma nhw ar 'u ffordd i fewn. | |
| (1, 0) 470 | Ma' gin Ywain wbath i ddeud. |
| (Ywain) Dwi'n sori am weiddi'r petha 'na, ac am ddeud y gair 'na, dio'm yn un ddylia fod neb yn iwsio. | |
| (Aaron) Ma'n naturiol siŵr. | |
| (1, 0) 481 | Oce Yws, 'na chdi, siŵr fod yr awyr fymryn sgafnach rŵan ac y bydd petha'n iawn. |
| (Ywain) Na, dio ddim yn iawn. | |
| (Ywain) Odda ni'n ffrindia, yn ffrindia gora, mots be ddudi di Arwel, ni o'dd y dybyl act, ni o'dd y ffrindia gora/ | |
| (1, 0) 486 | /Wel di'm yn gystadleuaeth nacdi/ |
| (Ywain) /Ella bod hi i fi. | |
| (Ywain) Gin i graith ar y nghoes lle frifish i efo beic a mi nath o gario fi adra, a fethish i... | |
| (1, 0) 494 | Yws/ |
| (Ywain) /Dwi'm 'di gorffan eto. | |
| (Ywain) E? | |
| (1, 0) 506 | Ma' pobol yn newid. |
| (Ywain) Yndyn, a ma nhw'n gadal ac yn ca'l jobsus ac yn gneud pres a grêt de. | |
| (Ywain) Ywain di'n enw fi! | |
| (1, 0) 525 | Yws, callia. |
| (Ywain) Dio jesd ddim yn deg Tanc, dos na'm byd yn ffycin deg. | |
| (Lisa) Ma'n oce. | |
| (1, 0) 533 | Be am i ni drio ca'l rhyw chenj bach? |
| (Lisa) Fysa'm yn well i ni drio chwara gêm ne wbath? | |
| (Aaron) God. | |
| (1, 0) 537 | Syniad da. |
| (Lisa) Be gawn ni 'di peth? | |
| (Ywain) Ofn ca'l stîd mae o. | |
| (1, 0) 548 | Sa ddigon o gowntars a ballu? |
| (Lisa) Dria ni. | |
| (Megan) O ia? | |
| (1, 0) 553 | Collwr gwael. |
| (Ywain) Gath o sterics rhyw dro efo twister do, ti'n cofio? | |
| (Ywain) Gath o sterics rhyw dro efo twister do, ti'n cofio? | |
| (1, 0) 555 | O, iesu do, a gweiddi. |
| (Aaron) O'dd o'n chwara twister? | |
| (Ywain) Parti pwy o'dd o? | |
| (1, 0) 559 | Dwnim. |
| (1, 0) 560 | Cain ella? |
| (Aaron) Fydda fo'n cicio'n nhin i ar Cluedo. | |
| (Lisa) Shit, neidar eto. | |
| (1, 0) 568 | Felly weli di hi'n amal iawn {yn ysgwyd y deis} a dyma fina lawr efo chdi. |
| (Aaron) Jesd lwc ydi hon de. | |
| (Megan) Reit, bob tro dachi'n cal neidar rhaid chi ddownio. | |
| (1, 0) 573 | Fel'na ma'i gneud hi! |
| (Ywain) Dwi'n deud 'tha chi, dyna ydi o. | |
| (Megan) Shit. | |
| (1, 0) 581 | Ma' hon fatha'r un am y Ryshians na sgin ti. |
| (Lisa) Be 'di honno? | |
| (Lisa) Be 'di honno? | |
| (1, 0) 583 | Deud ti, Yws, dwi'm yn chofio hi'n ddigon da. |
| (Ywain) Jesd cymyd y pi newch chi. | |
| (Ywain) Jesd cymyd y pi newch chi. | |
| (1, 0) 585 | Na, nawn ni ddim. |
| (Ywain) Iawn, oce, so. | |
| (Ywain) A dydyn nhw ddim r'un peth Tanc, dwi 'di deud o'r blaen, so ffyc off, ma David Attenbrough 'di deud. | |
| (1, 0) 592 | Yr unig beth dwi'n ddeud ydi sa rhywun yn deud fod na fwnci yn dy dŷ di a sa ti'n mynd i parlwr a gweld chimp yna fasa ti'm yn synnu. |
| (Lisa) Wel swni'n synnu i weld ffycin epa de. | |
| (Aaron) Pam fod gan chimps ddim cynffona? | |
| (1, 0) 597 | Achos bo nhw'n cerddad ar lawr yn ôl Iolo Williams yn fama. |
| (Ywain) Ia, a ffyc off eto achos adar a shit felna mae o'n lecio. | |
| (Ywain) Eniwe so Ryshans/ | |
| (1, 0) 602 | /ffoc mi/ |
| (Ywain) /Chdi o'dd isio. | |
| (Megan) {Megan yn gwneud wyneb mwnci ac yn chwerthin} | |
| (1, 0) 615 | Ia, oce, ella bo chi'n coelio honna ond no wê bo nhw yn rhoi llai o'r stwff melyn yn ganol crîm egs bob blwyddyn. |
| (Ywain) Ffycin ma' nhw! | |
| (Ywain) Ffycin ma' nhw! | |
| (1, 0) 617 | Sa pobol yn sylwi! |
| (Ywain) Aaron! | |
| (Megan) Ond jesd lliw gwahanol dio, ddim blas. | |
| (1, 0) 621 | Diolch! |
| (Ywain) Mae o'n fwy rich. | |
| (Ywain) Na, yn brifysgol o'dd i betha fo, do'dd o byth adra wedyn jesd. | |
| (1, 0) 627 | O'dd o'n joio'i hun yna doedd, siŵr fod gen ti straeon Lisa. |
| (Lisa) Oes, fedrai'm cofio, dim fel'na chwaith, rhyfadd. | |
| (Megan) Nath o'm sôn lot am ddyddia coleg wrtha fi. | |
| (1, 0) 630 | Dyddia gora dy fywyd di medda nhw. |
| (Lisa) Dodda nhw ddim, ddim bob tro. | |
| (Lisa) I neud hyn, mi driodd o o'r blaen, o'n i yna. | |
| (1, 0) 637 | Do? |
| (Aaron) Doni'm yn gwbod. | |
| (Lisa) Do'dd o byth ddim byd penodol rili, jesd rhyw syniad fod 'na wal ynddo fo'n rwla neu garpad lle odd petha'n cael eu stwffio. | |
| (1, 0) 655 | O'dd o'n un cyndyn i sgwrsio'n iawn. |
| (Lisa) Un peth fedra ni gytuno arno fo. | |
| (Lisa) Dwi am fynd i biso. | |
| (1, 0) 696 | Fyny grisia, ail ar y dde, paid a cloi chos ma'r drws yn mynd yn sdyc. |
| (1, 0) 699 | Deud hanas wrtha fi am dano fo. |
| (Aaron) Dwnim. | |
| (Aaron) Dwnim. | |
| (1, 0) 701 | Plîs. |
| (Aaron) Wel, nath o'm golchi'i lestri am fisoedd yn y tŷ oedd ganddo fo a mi dyfodd na fyshrwms arnyn nhw. | |
| (Aaron) Odd hynny'n reit ffyni mewn ffordd. | |
| (1, 0) 705 | Sut odda chdi'n nabod o ta? |
| (Aaron) Brifysgol. | |
| (Aaron) O'n i ddwy flynadd yn hŷn na fo, cyfarfod pan odda ni allan. | |
| (1, 0) 708 | O. |
| (1, 0) 709 | Peint yn ddrud yno medda fo 'tha ni. |
| (Aaron) Oedd, fydda ni'n yfad yn tŷ/ | |
| (Aaron) /y? | |
| (1, 0) 713 | Reffryns o'dd o, paid â phoeni. |
| (Aaron) Ia, wedyn yfad yn y fflat cyn mynd allan... | |
| (Aaron) Ma' 'na ogla panic mewn pybs a clybia rŵan pan dwi yna efo criw r'un oed a fi sti, beioleg dio, ogla hormons o'dd o ddeg mlynadd nol. | |
| (1, 0) 726 | Lot yn fa'ma r'un fath. |
| (1, 0) 727 | Diawl mi o'n i. |
| (Aaron) Oia? | |
| (Aaron) Oia? | |
| (1, 0) 729 | Ai, jesd ddim 'di gneud lot rioed os ti'n dallt be sgin i. |
| (1, 0) 730 | Methu cychwyn arni ne o'dd wbath yn teimlo'n chwithig, dwnim. |
| (1, 0) 731 | Dwi efo rhywun wan lly, a ma'n grêt. |
| (1, 0) 732 | Jesd oni'n poeni weithia. |
| (Aaron) Poeni? | |
| (Aaron) Poeni? | |
| (1, 0) 734 | Ia, fedrai'm deud pam, o'dd pawb arall doedd efo rhywun lly. |
| (1, 0) 735 | Pwysa ella? |
| (1, 0) 736 | Ond nace chwaith. |
| (1, 0) 737 | O'dd 'na rhywun yn byw wrth ymyl ni stalwm, ben 'i hyn. |
| (1, 0) 738 | Hen lanc, fydda fo'n dod heibio nain bob hyn a hyn, jesd i weld rhywun am wn i, ac o'dd o wastad bach yn od wsti. |
| (1, 0) 739 | Fydda ni'n mynd draw efo bagia Kwics gwag yn yr haf i hel eirin i'w ardd o. |
| (1, 0) 740 | Welist ti rioed le taclusach, Saeson sy 'na rŵan a mai'n gwilydd i weld. |
| (1, 0) 741 | Fydda ni'n hel yr eirin 'ma, a rhei ohonyn nhw mor barod i'w byta nes bo nhw'n bystio wrth i chdi dwtsiad nhw, fydda ni'n cal llond bag bob un mond fod y dyn ma'n ca'l pot ne ddau o jam. |
| (1, 0) 742 | O'n i fymryn o ofn y boi ma, un tro o'n i'n chwara mewn rhyw hen doman dywod, o'dd dad di prynu tywod i neud sment ond 'di adal o a'i lond o o gachu cath erbyn diwadd. |
| (1, 0) 743 | Ta waeth o'n i'n chwara yn y tywod 'ma, ac o'dd y dyn 'ma, Robat odd i enw fo, yn siarad efo dad wrth ymyl. |
| (1, 0) 744 | A dyma fo draw a llenwi'n welingtons i efo'r tywod 'ma a chwerthin, o'n i'n gwisgo nhw gyda llaw. |
| (1, 0) 745 | A chwerthin o'dd o. |
| (1, 0) 746 | Fatha fod o'r peth fwya hileriys ac o'n i ofn am mywyd. |
| (1, 0) 747 | Dwi di anghofio'n mhoint wan. |
| (1, 0) 749 | O nace, y point o'dd, bod y boi ma 'di arfar ei hun gymaint nes fod o 'di mynd yn ormod o fo'i hun, tha sa fo'n jam 'di berwi gormod lly. |
| (1, 0) 750 | Dwi'm isio bod fel'na sti. |
| (1, 0) 752 | Ond da ni'n hapus, ma hi'n gneud y peth athrawon 'ma wan. |
| (1, 0) 753 | Da ni'n meddwl ca'l tŷ, ne oleia llun o un i roi ar wal wrth i ni safio pres am yr ugian mlynadd nesa. |
| (Aaron) Be 'di enw'r cariad? | |
| (Aaron) Be 'di enw'r cariad? | |
| (1, 0) 755 | Sian. |
| (Aaron) Enw neis, enw cyfarwydd lly, fel soffa ti di arfar efo hi. | |
| (Aaron) Enw neis, enw cyfarwydd lly, fel soffa ti di arfar efo hi. | |
| (1, 0) 757 | Siani Flewog dwi'n galw hi achos, wel, hy. |
| (1, 0) 759 | Sori, dwi'n gwbod bo ni'n deud rhyw betha sydd ddim yn iawn. |
| (1, 0) 760 | Tynnu ar ein gilydd yda ni, dio'm yn gas sti. |
| (Aaron) Pam? | |
| (Aaron) Pam? | |
| (1, 0) 762 | Fel'na ma'i. |
| (1, 0) 763 | Rhan o'r hwyl am wn i. |
| (Aaron) Dwi'n weld o'n annifyr, fydda fo sti yn deud rhyw betha weithia, petha annifyr mond fod o 'di newid pitj y frawddeg fel bo hi'n jôc. | |
| (Aaron) Nes i drio helpu fo efo hynny. | |
| (1, 0) 768 | Odda chi'n agos lly? |
| (Aaron) Odda ni efo'n gilydd, Arwel, am ddwy flynadd. | |
| (Aaron) Dwi'm yn synnu fod o heb sôn. | |
| (1, 0) 771 | O, wel, naddo. |
| (1, 0) 772 | Doni'm yn... ond iawn de, chwara teg. |
| (Aaron) M. | |
| (Aaron) M. | |
| (1, 0) 774 | Biti fod o heb sôn deud gwir. |
| (Aaron) Sut galla fo? | |
| (Aaron) Sut galla fo? | |
| (1, 0) 776 | Y? |
| (Aaron) Sut galla fo sôn wrtha chdi, a'r cefndar 'na a gweddill criw pen yma. | |
| (Aaron) Os tisio ffendio lle ddechreuodd hyn dos yn ôl i'r ysgol na lle odda chi gyd. | |
| (1, 0) 781 | 'Di hynna'm yn deg. |
| (Aaron) Deud ti. | |
| (Aaron) Deud ti. | |
| (1, 0) 783 | Iawn oce, ma na lot o betha gwirion yn cal 'u deud ond no wê, no wê na jesd 'pobol pen yma' be bynnag ffwc ydi hynny sydd wrthi. |
| (1, 0) 784 | Ma' 'na bobol yn bob man, a ma' 'na lot mwy sydd yn dal i feddwl y petha ma'i gyd mond bo nhw di dysgu peidio'u deud nhw, ne dysgu sut ma'i ddeud o mewn ffordd sy'n dal yn iawn. |
| (1, 0) 785 | Jesd, paid a'n meirniadu fi plîs. |
| (1, 0) 786 | Gawn ni drafod a ma hynny'n iawn, ond dwi'm isio ffraeo. |
| (1, 0) 787 | Yr unig wahaniath rhyngtha chdi a Yws yn fana ydi cyfla, a lwc mul bo chdi di cal mynd i rwla i ddysgu sut ma' bihafio. |
| (1, 0) 788 | A dwi'n gwbod fod o'n nob sy'n deud petha gwirion ond mae o'n foi iawn hefyd a ma posib bod y ddau beth. |
| (1, 0) 790 | Sori, dwi'n teimlo mod i 'di pregethu. |
| (Aaron) Dio'm ots gen i, dio'm ots gen i am ddim byd heno ma. | |
| (Aaron) Pam fod o 'di goro gneud hynna Arwel? | |
| (1, 0) 795 | Dwn i'm. |
| (1, 0) 796 | Dwi'n meddwl hynna lot fy hun. |
| (Lisa) Bob dim yn iawn 'ma? | |
| (Lisa) Bob dim yn iawn 'ma? | |
| (1, 0) 799 | Yndi tad. |
| (Aaron) Ydi. | |
| (Lisa) Oes 'na rwla i ga'l brecwast o gwmpas fama Arwel? | |
| (1, 0) 877 | Ma na weatherspoons yn dre, ne os ddowch chi acw na'i wbath i chi. |
| (1, 0) 879 | Deffra twat! |
| (Ywain) Ffyc off. | |
| (Megan) Be sgwennodd o, Arwel? | |
| (1, 0) 884 | Y? |
| (Megan) Nes di sôn fod 'na bapura. | |
| (Ywain) Ia, be o'dd hynny? | |
| (1, 0) 888 | Dwni'm os dio werth... |
| (Aaron) Swni'n lecio gwbod fyd. | |
| (Aaron) Swni'n lecio gwbod fyd. | |
| (1, 0) 890 | Doddna'm llythyr, na esboniad, heblaw am betha o'dd o'n sgwennu eniwe. |
| (1, 0) 891 | O'dd ei fam o'n confinsd fod rheiny'n wbath ond dodda nhw ddim, jesd sgwennu, ond fod 'na wreiddia go iawn iddo fo. |
| (1, 0) 892 | Ond gafo ni betha'n ôl, ei ddillad o a ballu. |
| (1, 0) 893 | Ac yn bocad ei drwsus o, rhoswch mae o gen i yn fy walat, dwnim pam, jesd, odd isio fo fod yn rwla saff. |
| (1, 0) 895 | Dyma ni. |
| (Lisa) Ni 'di... | |
| (Lisa) Ni 'di... | |
| (1, 0) 899 | Enwa a rhifa ffôn y pump ohona ni. |
| (1, 0) 900 | Ma'raid fod o di meddwl... ond ddath na'm byd o hynny. |