| (John) Byt gaws, bachan, i ti gael dyfod yn gryf i weithio. | |
| (John) Cer nawr i roddi bwyd i'r anifeiliaid, da machan i. | |
| (1, 0) 15 | Yn wir, mishtir bach, mae yr hen grwt yna wedi mynd yn rhyfedd iawn oddiar pan ych chwi a finne wedi dechre caru. |
| (1, 0) 16 | Chawn ni ddim siarad gair â'n gilydd na fydd e yn treial watcho a gwrando o hyd, fel pe byddai ein caru ni yn rhyw fater pwysig iawn iddo ef. |
| (John) {Yn rhwbio ei ddwylaw.} | |
| (John) Yr wyt wedi bod yn forwyn dda a gofalus, ac yr wyf yn gwbl gredu y gwnei di wraig dda hefyd. | |
| (1, 0) 22 | Eithaf da, mishtir bach, ond dwyf fi ddim am i chi gredu mai dim ond gyda chwi yr wyf wedi cael cynnyg priodi hefyd. |
| (John) {Yn rhwbio ei ddwylaw.} | |
| (John) Rhai budr i chi y merched am ddangos eich independancy, ac yr ydych yn leicio cael eich coaxio yn ofnatsan. | |
| (1, 0) 26 | Ie, ond yn siwr i chwi, ces i gynnyg pum mlynedd yn ol ar John, Tynyfron. |
| (1, 0) 27 | Gwidwar yw John, mae yn wir, ac nid yw yn un o'r rhai glanaf, ond y mae yn berchen ar ei le bach ei hunan, ac y mae grân ar bethau yn Tynyfron. |
| (1, 0) 28 | Y mae yn well i ferch i gael dyn â thipyn o arian ganddo a thipyn o brofiad mewn bywyd na chael rhyw hogyn pen-chwiban nad oes ganddo dim synnwyr yn ei ben, na gras yn ei galon, na cheiniog o arian yn ei logell. |
| (John) {Yn esgus cydio ym mraich Ann.} | |
| (John) Ie, lycoch chi nawr. | |
| (1, 0) 31 | Ac own ni yn mynd i weyd ta chi yn gadael llony i fi, ces i gynnyg hefyd ar William, gwas Ty'r-ddol. |
| (1, 0) 32 | Fe wariodd swlltau yn ffair G'langaea ar ffeirins i mi, ac mi dalodd am ride i mi ar y ceffylau bach hefyd, a mae bob nos Sul am fy hebrwng i adre o'r cwrdd. |
| (John) Lycoch chi nawr, wyt ti yn cael hwyl ar siarad heddyw, Ann, ond yr wyt wedi bod yn forwyn dda a gofalus i mi am bymtheg mlynedd, ac y mae ychydig o'th gyflogau, fel y gwyddost, yn aros heb eu talu o hyd. | |
| (John) Does gen i, wyt ti'n gweld, ddim ffashwn beth a thalent at garu fel sydd gan rai bechgyn, ond y mae yn hen bryd i ni ddod i'r penderfyniad bellach i fyw er gwell neu er gwaeth fel gwr a gwraig yn y Tyddyn Llwyd. | |
| (1, 0) 35 | O'r gore, mishtir bach, yr wyf yn eithaf boddlon, ond rhaid i mi gael amser i baratoi fy |nhress| briodas. |
| (1, 0) 36 | Yr wyf am gael un newydd spon. |
| (1, 0) 37 | Fe briododd Mary, morwyn Plas-bach yn ei hen |ddress|, a mawr fu y siarad yn y pentre am hynny, ac y maent yn edrych i lawr ar Mary byth oddiar hynny. |
| (John) Lycot ti nawr. | |
| (John) Byth nas cyffra i, mae |dress| y briodas yn fwy pwysig yng ngolwg llawer merch na'r dyn y mae yn briodi; ond o'r goreu, cymer di dy amser fy ngeneth i, i gael dy |ddress|,' ac fe gadwn ni y mater yn |secret| hyd yr awr apwyntiedig. | |
| (1, 0) 41 | Ia'n wir, charwn ni ddim i deulu clonc y pentre ddwad i wybod. |
| (1, 0) 42 | Wa'th chi wyddoch, mishtir bach, fel y ma nhw yn siarad am bob peth. |
| (1, 0) 43 | Y maent yn estyn at un stori, ac yn tynnu oddiwrth stori arall, ac nid yw y stori yn agos yr un fath wedi iddi fyned trwy ddwylaw a thafodau teulu y glonc. |
| (John) Lycot ti, nas cyffra i. | |
| (1, 0) 66 | Alright, mishtir bach, yn y funud nawr. |
| (John) {Yn agor y llythyr, ac yn siarad ag ef ei hun.} | |
| (1, 0) 100 | Ie, gwythien o aur, a finne yn gweithio blwyddyn gyfan am ddeuddeg punt, ac y mae ychydig o fy nghyflogau yn aros heb eu talu o hyd. |
| (John) Ewch ymlaen, Morris, gwythien o aur─ | |
| (1, 0) 103 | Gwythien o aur. |
| (Morris) "Heblaw y swm anferth o aur cafodd hefyd ffynhonnau o olew, a llawer iawn o nwy (gas) tra gwerthfawr; fel trwy y cyfan gwnaeth eich brawd William Jones, mewn oes gymharol fer, y swm anferth o dri chan mil o ddoleri, yn ol arian y wlad hon, yn ol arian eich gwlad chwi byddant yn rhyw driugain mil o bunnau." | |
| (John) Triugain mil o bynnau, nas cyffra i—dyna waith da! | |
| (1, 0) 106 | Ma digon o'u heisiau nhw arnoch chi, mishtir bach. |
| (1, 0) 107 | Wedi i Pinken farw 'doedd gennych chwi ddim arian i gael buwch yn ei lle hi, a phe buaswn ni yn gwasgu am fy nhipyn cyflogau. |
| (John) Ewch ymlaen, Morris, wr glân, peidiwch a gwrando ar Ann. | |
| (John) Garw y fath ddiddordeb y mae yn gymryd yn arian pobl eraill. | |
| (1, 0) 110 | Arian pobl eraill yn wir, a minnau yn mynd─ |
| (John) {Yn rhoddi amnaid ar ANN i fod yn ddistaw.} | |
| (Morris) Lawer mwy cyfoethog. | |
| (1, 0) 123 | A Jones y Gellideg. |
| (Morris) Lawer cyfoethocach. | |
| (1, 0) 129 | Hwre! |
| (1, 0) 130 | hwre! |
| (John) Peidiwch a gwneud sylw o Ann, Mr. Morris. | |
| (John) Lycoch chi nawr. | |
| (1, 0) 141 | Chware teg i mishtir. |
| (1, 0) 142 | Y mae mishtir yn mynd i'r cwrdd bob dydd Sul. |
| (1, 0) 143 | Chollodd e ddim dydd Sul eleni, ond pan ddaeth Beauty â llo bach, ac fe ddigwyddodd yr hen fuwch ddod ar amser cwrdd. |
| (1, 0) 144 | Ond pan oeddynt yn dewis diaconiaid yn Salem, bu dim cymaint a son am enw mishtir. |
| (Morris) Quite so. | |
| (1, 0) 155 | For shame, Morris, a dweyd sut beth. |
| (1, 0) 156 | Os mai priodi mishtir er mwyn ei arian wnaiff hi, y mae yn well iddo fod hebddi. |
| (1, 0) 157 | Ychydig o gysur gaiff e gyda hi. |
| (John) Lycoch chi, peidiwch a gwneud sylw o Ann, Mr. Morris, y mae ei thafod yn hir ar brydiau. | |
| (Morris) Os na fydd eich |suit| yn y |latest fashion|, cred neb eich bod yn wr bonheddig, a pharcha neb chwi fel y cyfryw ychwaith. | |
| (1, 0) 190 | Ie, y mae eisiau dillad newydd ar mishtir. |
| (1, 0) 191 | Does dim balchter ynddo fe. |
| (1, 0) 192 | Pan fyddaf fi wedi trafferthu i gael ei golar yn loew, fe aiff mishtir i'r cwrdd dy' Sul wedyn yn ei grafat goch, am fod honno, ebai fe, yn fwy cymffyrddus. |
| (1, 0) 193 | Yr unig tro y mae mishtir yn gwisgo colar yw pan bo |meeting| rhent, neu gymanfa bregethu yn Salem. |
| (Morris) Quite so. | |
| (Morris) Gydag ychydig bach o bractis fe ddaw Wil bach ati yn iawn. | |
| (1, 0) 202 | Ie, ma ishe rhywbeth ar mishtir yn lle Darby a'r cart. |
| (1, 0) 203 | Pan y mae yn myned dy' Sadwrn i farchnad Llandilo, ddaw e ddim gartre nes bo hì yn rhywbryd o'r nos. |
| (1, 0) 204 | Rhyng bod Darby dipyn yn gloff a mishtir yn galw yn y tafarnau mae e byth a hefyd ar yr hewl, ond chware teg i mishtir, mae e yn mynd i'r cwrdd bore dy' Sul wedyn. |
| (Morris) Quite so. | |
| (1, 0) 219 | Ie'n wir, trigain mil o bunnau. |
| (1, 0) 220 | Garw byth na buaswn wedi gwneud yn siwr ohono, a minnau wedi cael cymaint o gynnyg. |
| (1, 0) 221 | Does gen i ddim golwg ar yr hen Forris yna. |
| (1, 0) 222 | Mae pawb yn gwybod ei hanes ef. |
| (1, 0) 223 | Hen sgwlyn wedi colli ei job trwy feddwi. |
| (1, 0) 224 | Y mae digon a gormod yn ei ben ef, ond y mae ei galon mor ddued a simne glo |ring|. |
| (1, 0) 225 | Pa eisiau iddo fe i |saco| ymhen mishtir y gallai fe gael y ferch lanaf yn Nyffryn Tywi os mynnai ef. |
| (1, 0) 226 | Wyddis ar y ddaear beth osodith Morris ym mhen mishtir eto. |
| (1, 0) 227 | Dyw i ddim yn talu i ferch fod yn rhy independant. |
| (1, 0) 228 | Mae hi y rhan amlaf yn 'difaru. |
| (Hlin) Y Ferch wrth Odre'r Mynydd | |
| (Hlin) Y Ferch wrth Odre'r Mynydd | |
| (1, 0) 238 | Rwy'n awr yn un ar hugain |
| (1, 0) 239 | O flwyddi llawn mewn oed; |
| (1, 0) 240 | Ac wedi byw wrth odre |
| (1, 0) 241 | Y mynydd mawr erioed; |
| (1, 0) 242 | Mae rhai yn hoffi teithio |
| (1, 0) 243 | I weld pellterau'r byd: |
| (1, 0) 244 | Ond byw wrth droed y mynydd |
| (1, 0) 245 | Y byddaf fi o hyd. |
| (1, 0) 246 | ~ |
| (1, 0) 247 | Rwy'n mynd i'r gwely'n gynnar, |
| (1, 0) 248 | Rwy'n codi gyda'r wawr; |
| (1, 0) 249 | Caf glywed can yr 'hedydd |
| (1, 0) 250 | Ar ben y mynydd mawr. |
| (1, 0) 251 | Rwy'n godro'r gwartheg blithion |
| (1, 0) 252 | Bob bore a phob hwyr; |
| (1, 0) 253 | A llaethi'r lloi yn gyson |
| (1, 0) 254 | Sydd wrth fy modd yn llwyr. |
| (1, 0) 255 | ~ |
| (1, 0) 256 | Mae rhai yn byw ar foethau, |
| (1, 0) 257 | A gwino'dd o bob math; |
| (1, 0) 258 | Rwyf finnau'n iach fy ngruddiau |
| (1, 0) 259 | Wrth fyw ar gawl a lla'th: |
| (1, 0) 260 | Mae rhywrai mewn segurdod |
| (1, 0) 261 | Yn treulio'u hoes yn llwyr, |
| (1, 0) 262 | Ond gweithio byddaf finnau |
| (1, 0) 263 | O'r bore hyd yr hwyr. |
| (1, 0) 264 | ~ |
| (1, 0) 265 | Mae rhai yn gwisgo'n gostus |
| (1, 0) 266 | Mewn rhyw sidanau drud; |
| (1, 0) 267 | A dilyn duwies ffasiwn |
| (1, 0) 268 | Eu hymffrost yn y byd. |
| (1, 0) 269 | Caf finnau wisgoedd cynnes |
| (1, 0) 270 | O wlân y llwdwn du |
| (1, 0) 271 | Sy'n pori ar lechweddau |
| (1, 0) 272 | Y mynydd ger y ty. |
| (1, 0) 273 | ~ |
| (1, 0) 274 | Pwy omedd im' freuddwydio |
| (1, 0) 275 | Am ddyddiau lawer gwell |
| (1, 0) 276 | Pwy omedd im' ddelfrydau |
| (1, 0) 277 | Ar ben y talfryn pell. |
| (1, 0) 278 | Pwy wyr na welir finnau |
| (1, 0) 279 | Os ffawd o'm hochor dry, |
| (1, 0) 280 | Yn wraig i'r cyfoethocaf |
| (1, 0) 281 | Wrth droed y Mynydd Du. |