| (Lowri) Mae Syr John wedi gorffen cinio. | |
| (Walter) Ti fu'n tynnu llwch yma heddiw? | |
| (1, 0) 44 | Fi oedd i wneud, ond mi anfonodd Mrs. Roberts fi am neges i'r pentre cyn imi orffen. |
| (Walter) Rhed dy fys ar hyd y sideboard yma? | |
| (1, 0) 48 | Go ddrwg yntê? |
| (1, 0) 49 | Chyrhaeddais i ddim hyd yma. |
| (1, 0) 50 | Dim ond y lle tân a'r llawr. |
| (Walter) Rhyw slemp o lanhau. | |
| (Walter) Rhyw slemp o lanhau. | |
| (1, 0) 52 | Dydy hynny ddim yn deg, Mr. Walter. |
| (1, 0) 53 | Nid un i lechian gweithio ydw i. |
| (1, 0) 54 | Mae'r forwyn fach at alwad pawb bob munud. |
| (Walter) Be wyt ti'n hornio, 'mechan i? | |
| (1, 0) 58 | Peidiwch, Mr. Walter. |
| (Walter) {Gan ei thynnu hi ato a cheisio'i chusanu.} | |
| (Walter) Gwen bob man a choch ei bocha". | |
| (1, 0) 63 | Cilia dy ddwylo, y sbachwr budr! |
| (Walter) Y mwnci diawl, be haru ti? | |
| (Walter) Y mwnci diawl, be haru ti? | |
| (1, 0) 66 | Chaiff neb holmyn fynd yn hy arna i, Dic Walter. |
| (Walter) Mynd yn hy! | |
| (Walter) Rwyt ti'n siarad fel pladres o wraig fonheddig. | |
| (1, 0) 69 | Mae gan forwyn fach ei pharch gystal â gwraig fonheddig. |
| (Walter) Cau dy hopran, y gnawes gipog, os dyna dy siort di. | |
| (1, 0) 72 | Rydach chi yn llygad eich lle. |
| (1, 0) 73 | Dyna fy siort i. |
| (Walter) O'r gorau, mae hi wedi cau arnat ti am le yma. | |
| (Walter) Mi gei hel dy garcas a ffwrdd a thi bore fory nesa. | |
| (1, 0) 76 | Holics gwyllt, ie? |
| (1, 0) 77 | Dydy hynny'n dychryn dim arna i. |
| (1, 0) 78 | Mae gen i ewyrth yn Dronwy yn yr un swydd â chithau. |
| (1, 0) 79 | Hawdd imi symud yno. |
| (Walter) Heb garictor? | |
| (Walter) Heb garictor? | |
| (1, 0) 81 | Mi ofynna i Mrs. Roberts am garictor. |
| (1, 0) 82 | Hi ddaru 'nghyflogi i. |
| (Walter) Rwyt ti'n lartsh ar y naw, 'nglasan i. | |
| (Walter) Pam na ofynni di i Syr John? | |
| (1, 0) 85 | A dweud wrtho pam rydw i'n mynd? |
| (Walter) Capten yn y llynges fu Syr John. | |
| (Walter) Roi di glewtan o ddiolch i Syr John? | |
| (1, 0) 89 | Nid rhyw glwpa bron torri ar ei draws eisiau cusan ydy Syr John. |
| (Walter) Pwy sy eisiau dy gusan di, y sili-ffrit? | |
| (Walter) Pwy sy eisiau dy gusan di, y sili-ffrit? | |
| (1, 0) 91 | Chi, nid fi, ddwedodd Syr John. |
| (Walter) Rwyt ti'n mynd yn llond y tŷ. | |
| (1, 0) 95 | Mi fydde'r llestri wedi eu gorffen rwan heb i chi anfon amdana i a chael slap am eich gwendid. |
| (Walter) Mae'r te'n barod i chi syr. | |
| (Syr John) Be ydy d'enw di? | |
| (1, 0) 108 | Ann, syr. |
| (1, 0) 109 | Ann Thomas. |
| (Syr John) Be ydy d'oed di. | |
| (Syr John) Be ydy d'oed di. | |
| (1, 0) 111 | Deunaw, syr. |
| (Syr John) O ble doist ti? | |
| (Syr John) O ble doist ti? | |
| (1, 0) 113 | O Aberffraw, syr. |
| (1, 0) 114 | Ffermwr, a chanddo dyddyn go lew, Thomas Williams, ydy nhad i. |
| (Syr John) Ydy dy ddwylo di'n lân? | |
| (1, 0) 117 | Roedden nhw'n lanach bum munud yn ôl. |
| (Syr John) Fedri di dywallt te? | |
| (Syr John) Fedri di dywallt te? | |
| (1, 0) 119 | A'i yfed hefyd, syr, pan fedra i fforddio. |
| (Syr John) O'r gore, Walter. | |
| (Syr John) ... Does dim rhaid iti aros. | |
| (1, 0) 129 | Siwgwr, Syr? |
| (Syr John) Ydy'r te'n gry? | |
| (Syr John) Ydy'r te'n gry? | |
| (1, 0) 131 | Mae o'n sefyll ryw bum munud. |
| (Syr John) Un darn, felly... | |
| (Syr John) 'Fedri di sgwennu, Ann? | |
| (1, 0) 134 | Cymraeg a Saesneg, syr. |
| (1, 0) 135 | Be' wnawn i yma heb lythyrau? |
| (Syr John) Wyt ti'n forwyn? | |
| (Syr John) Wyt ti'n forwyn? | |
| (1, 0) 137 | Yn fy mlwyddyn gynta, syr. |
| (Syr John) Nid dyna rydw i'n ei ofyn... | |
| (1, 0) 142 | Naddo erioed... |
| (1, 0) 143 | Ond pa hawl sy gennych chi i ofyn? |
| (Syr John) Peth prin yn dy ddosbarth di. | |
| (1, 0) 146 | Mi alwa i ar Mr. Walter i dywallt i chi, ─ syr. |
| (Syr John) Mi ofynnais i ti dywallt. | |
| (Syr John) Mi ofynnais i ti dywallt. | |
| (1, 0) 148 | Mae gen i'r llestri i'w golchi. |
| (Syr John) Dos ymlaen... | |
| (1, 0) 155 | Dyna ofynsoch chi'r tro cynta? |
| (Syr John) Ie. | |
| (Syr John) Ie. | |
| (1, 0) 157 | Roeddwn i'n amau 'mod i'n clywed pethau ac yn gwirioni. |
| (Syr John) Wel?... | |
| (Syr John) Wnei di? | |
| (1, 0) 160 | Tad annwyl! |
| (1, 0) 161 | ... Gwnaf. |
| (Syr John) Pam 'rwyt ti'n chwerthin? | |
| (1, 0) 164 | Mae pethau'n digwydd imi heddiw. |
| (Syr John) Rydw i o ddifri, Ann. | |
| (Syr John) Rydw i o ddifri, Ann. | |
| (1, 0) 166 | Gobeithio'ch bod chi. |
| (Syr John) Rwyt ti'n fy nghredu i? | |
| (Syr John) Rwyt ti'n fy nghredu i? | |
| (1, 0) 168 | Rydw i'n ceisio 'ngore. |
| (1, 0) 169 | Rhowch funud neu ddau imi. |
| (Syr John) Dyna pam y gyfynnais i─ | |
| (Syr John) Dyna pam y gyfynnais i─ | |
| (1, 0) 171 | Rydach chi'n reit sobor, syr? |
| (Syr John) Fûm i erioed yn sobrach er pan wnes i f'ewyllys yn Gibraltar saith mlynedd yn ôl. | |
| (1, 0) 174 | Mae hynny'n gysur... |
| (1, 0) 175 | Ewyllys hen lanc? |
| (Syr John) Mae darpariaeth ynddi i wraig... | |
| (Syr John) Un unig ydw i, Ann. | |
| (1, 0) 178 | 'Does dim rhaid i chi fod. |
| (Syr John) Rydw i'n hen, 'merch i. | |
| (Syr John) Blwyddyn arall ac mi fydda i'n ddeugain. | |
| (1, 0) 181 | Dyna glep y gegin er pan ddois i yma. |
| (1, 0) 182 | Mi fu 'na ddal grotiau y priodech chi cyn eich deugain. |
| (Syr John) 'Gân' nhw ddychryn? | |
| (Syr John) 'Gân' nhw ddychryn? | |
| (1, 0) 184 | Mi gaiff Richard Walter sioc ei fywyd. |
| (Syr John) Mae arna i ofn y bydd peth dychryn ar y cynta yn Bath ac yn Baron Hill... cyn iddyn nhw dy weld di. | |
| (Syr John) Mae arna i ofn y bydd peth dychryn ar y cynta yn Bath ac yn Baron Hill... cyn iddyn nhw dy weld di. | |
| (1, 0) 186 | A chwerthin go fawr am eich pen chi yn priodi cangen o forwyn weini. |
| (1, 0) 187 | A'r gwatwar yn yr |assembly| ym Miwmares! |
| (Syr John) 'Fydd arnat ti ofn? | |
| (Syr John) 'Fydd arnat ti ofn? | |
| (1, 0) 189 | Mae gwragedd eich dosbarth chi yn fedrus iawn i frifo. |
| (1, 0) 190 | Fel tynnu gwaed. |
| (Syr John) Mi fyddi di'n un ohonyn nhw. | |
| (Syr John) Mi fyddi di'n un ohonyn nhw. | |
| (1, 0) 192 | 'Ddwedwch chi hynny wrth Mrs. King? |
| (Syr John) Mi fydd yn haws sgwennu ati na dweud wrthi. | |
| (Syr John) Tipyn o arglwyddes ydy fy chwaer. | |
| (1, 0) 195 | Syr John, munud o wallgofrwydd ydy hwn. |
| (1, 0) 196 | Rydw i'n barod i anghofio'r cwbl a mynd odd'ma. |
| (1, 0) 197 | Mi fydd yn hawdd imi fynd. |
| (1, 0) 198 | Rydw i wedi cael notis. |
| (Syr John) Ddaru ti addo 'mhriodi i, Ann Thomas? | |
| (Syr John) Ddaru ti addo 'mhriodi i, Ann Thomas? | |
| (1, 0) 200 | Do, syr. |
| (Syr John) Wyt ti'n tynnu'n ôl? | |
| (Syr John) Wyt ti'n tynnu'n ôl? | |
| (1, 0) 202 | Rhoi cyfle i chi i dynnu'n ôl. |
| (Syr John) Rhaid inni briodi heb fod neb yn gwybod... | |
| (Syr John) Fedri di fod allan y bore heb i neb yn y cefn amau? | |
| (1, 0) 210 | Bore pobi bara. |
| (1, 0) 211 | Fi sy'n picio i'r pentre'r noson gynt i brynu burum. |
| (1, 0) 212 | Os anghofia i rhaid imi redeg cyn brecwast drannoeth. |
| (1, 0) 213 | Tair wythnos i neithiwr mi anghofia i'r burum. |
| (Syr John) Fedri di ddilyn dy waith yma am dair wythnos fel cynt? | |
| (Syr John) Fedri di ddilyn dy waith yma am dair wythnos fel cynt? | |
| (1, 0) 215 | Hawdd deffro o freuddwyd a dau droed ar y llawr. |
| (Syr John) Nid breuddwyd ydy hyn, Ann. | |
| (Syr John) Nid breuddwyd ydy hyn, Ann. | |
| (1, 0) 217 | Breuddwyd i mi nes mynd am y burum. |
| (1, 0) 218 | Tan hynny peidiwch chi â gofyn am fy ngweld. |
| (Syr John) Paid dithau â rhedeg i ffwrdd. | |
| (Syr John) Paid dithau â rhedeg i ffwrdd. | |
| (1, 0) 220 | Rhaid imi ofyn maddeuant Mrs. Roberts er mwyn aros. |
| (Syr John) Be fu? | |
| (Syr John) Be fu? | |
| (1, 0) 222 | Mymryn o ffrwgwd wedi imi fethu codi llwch. |
| (1, 0) 223 | Dim o bwys. |
| (1, 0) 224 | Mae gen i dymer wyllt. |
| (1, 0) 225 | Tendiwch! |
| (Syr John) Fedri di reoli tŷ fel hwn? | |
| (Syr John) Fedri di reoli tŷ fel hwn? | |
| (1, 0) 227 | Mi fydd gen i Mrs. Roberts. |
| (1, 0) 228 | Nid dyna fydd fy mhroblem i. |
| (Syr John) Be' fydd dy broblem di? | |
| (Syr John) Be' fydd dy broblem di? | |
| (1, 0) 230 | Ond chi... |
| (1, 0) 231 | Chi! |
| (Syr John) Ann bach, rydw i'n methu'n lân â dirnad pam rwyt ti'n fy mentro i. | |
| (Syr John) Ann bach, rydw i'n methu'n lân â dirnad pam rwyt ti'n fy mentro i. | |
| (1, 0) 233 | Mi fydde'n ffitiach fy mod i'n deud hynny na chi... |
| (1, 0) 234 | Chi sy'n mentro. |
| (Syr John) Mi wn i pam rydw i'n mentro. | |
| (Syr John) Ond pam yr wyt ti? | |
| (1, 0) 237 | Gofynnwch i Mrs. King. |
| (Syr John) I ti rydw i'n gofyn. | |
| (Syr John) I ti rydw i'n gofyn. | |
| (1, 0) 239 | Mi ro i ateb Mrs. King. |
| (1, 0) 240 | Chawn i ddim cynnig gwell tawn i'n aros chwarter canrif. |
| (Syr John) Dyna'r unig reswm? | |
| (Syr John) Dyna'r unig reswm? | |
| (1, 0) 242 | Cwestiwn teg tair wythnos i heno. |
| (1, 0) 243 | Dowch, mae'ch te chi'n oeri, syr, a'r llestri heb eu golchi... |