| (Y Ddewines Gyntaf) Pa bryd y down ni eto'n tair | |
| (Ross) Yn chwyrn, dôi'r naill gennad ar ôl y llall, a phob un yn dwyn i'w ganlyn dy glod fel amddiffynnwr mawr ei deyrnas, ac yn eu tywallt ger ei fron. | |
| (1, 3) 155 | Danfonwyd ni i ddwyn i ti ddiolch oddiwrth ein meistr brenhinol, dim ond i'th ddwyn dy hun i'w ŵydd, ac nid i dalu i ti. |
| (Ross) Ac fel ernes o anrhydedd mwy, fo barodd i mi ar ei ran ef d'alw di yn Arglwydd Cawdor; ac ar yr urddas hwnnw, henffych, deilwng Arglwydd, canys eiddot yw. | |
| (Macbeth) Y mae Arglwydd Cawdor eto'n fyw, paham yr ydych yn fy ngwisgo â dillad benthyg? | |
| (1, 3) 160 | Y sawl oedd Arglwydd, yn fyw eto, ond tan farn drom y mae ganddo'r bywyd y mae'n haeddu ei golli. |
| (1, 3) 161 | A oedd ef gyda'r gwŷr o Norwy, ai cyfnerthu'r gelyn â help a mantais gudd a wnaeth ef, ai llafurio yn y naill fodd a'r llall, er dinistr ei wlad, nis gwn i; ond y mae'r brad pennaf, a gyffeswyd ac a brofwyd, wedi ei ddymchwel ef. |