| (Y Ddewines gyntaf) Cyfwrdd eto, bryd y daw | |
| (Ross) Yn chwyrn y deuai'r naill gennad ar ol y llall, a phob un gydag ef yn dwyn dy glodydd yn amddiffyn mawr ei deyrnas, ac yn eu tywallt ger ei fron. | |
| (1, 3) 143 | Anfonwyd ni i ddwyn i ti ddiolch oddiwrth ein meistr brenhinol; dim ond i'th ddwyn i'w ŵydd, ac nid i dalu i ti. |
| (Ross) Ac fel ernes o anrhydedd mwy, fo barodd i mi drosto dy alw'n Arglwydd Cawdor; ac ar yr urddas, henffych deilwng arglwydd, canys eiddot yw. | |
| (Macbeth) Mae Arglwydd Cawdor eto'n fyw, paham yr ydych yn fy ngwisgo â dillad benthyg? | |
| (1, 3) 148 | Y sawl oedd arglwydd, weithian, byw y mae, eithr dan farn drom y dwg y bywyd y mae'n haeddu ei golli. |
| (1, 3) 149 | A oedd ef gyd â'r gwyr o Norwy, ai cyfnerthu'r gelyn â help a mantais gudd a wnaeth, ai ynte a lafuriodd ef yn y naill fodd a'r llall, er dinistr ei wlad, nis gwn i; |
| (1, 3) 150 | eithr y mae'r pennaf brad, yn eglur a phrofedig, wedi ei ddymchwel ef. |