| (1, 0) 10 | P'nawn da, Syr. |
| (Botha) P'nawn da, Amos. | |
| (Botha) P'nawn da, Amos. | |
| (1, 0) 13 | Chi'n teimlo'n well, Syr? |
| (Botha) {Yn eistedd wrth ei ddesg.} | |
| (Botha) 'Wyt ti wedi gorffen y 'stafell yma? | |
| (1, 0) 19 | Ydw' Syr. |
| (Botha) Mi gei fynd, felly. | |
| (Botha) Mae arna'i eisiau llonydd rŵan. | |
| (1, 0) 22 | O'r gora', Syr. |
| (1, 0) 26 | Syr? |
| (Botha) Tyrd yma am funud. | |
| (1, 0) 29 | Syr? |
| (Botha) Dy ferch,—sut y mae hi y dyddia' 'ma? | |
| (Botha) Dy ferch,—sut y mae hi y dyddia' 'ma? | |
| (1, 0) 31 | Yr un fath, Syr. |
| (1, 0) 32 | Dim golwg gwella arni. |
| (Botha) Hm! | |
| (Botha) 'Faint ydy' ei hoed hi rŵan? | |
| (1, 0) 35 | Naw, Syr. |
| (1, 0) 36 | Ei phen-blwydd hi ddoe. |
| (Botha) Felly'n wir... | |
| (Botha) Beth mae'r meddyg yn 'i ddweud? | |
| (1, 0) 39 | Y galon, Syr. |
| (1, 0) 40 | Mae hi'n wanllyd erioed. |
| (1, 0) 41 | 'Does dim lle yn yr ysbyty. |
| (1, 0) 42 | Nhw'n dweud ddim lle am flwyddyn arall. |
| (1, 0) 43 | Mae ein hysbyty ni'n llawn bob amser, Syr. |
| (Botha) Ydy', 'rwy'n deall... | |
| (Botha) Gad imi wybod sut y bydd o dro i dro. | |
| (1, 0) 47 | O'r gora', Syr. |
| (Botha) {Mynd i'w boced.} | |
| (Botha) Hwda, dos i brynu tipyn o ffrwythau iddi. | |
| (1, 0) 52 | 'Wn i ddim sut i ddiolch ichi, Syr? |
| (Botha) Paid â thrio. | |
| (Botha) Paid â dweud am hyn wrth neb, 'wyt ti'n deall? | |
| (1, 0) 56 | Fi'n deall. |
| (Botha) Dim hyd yn oed wrth Miss Helga... | |
| (Botha) B'le mae hi, gyda llaw? | |
| (1, 0) 59 | Yn yr ardd, fi'n credu, Syr. |
| (1, 0) 61 | Ia, dacw hi, Syr, yn hel blodau. |
| (1, 0) 62 | 'Ydych chi am imi alw arni? |
| (Botha) Na, na: mi ddaw yma mewn munud... | |
| (Botha) Mae yma un peth arall, Amos. | |
| (1, 0) 65 | Syr? |
| (Botha) 'Dwy'i ddim am iti ddweud gair wrthi am y wasgfa fach honno ge's i y bore yma. | |
| (Botha) 'Dwy'i ddim am iti ddweud gair wrthi am y wasgfa fach honno ge's i y bore yma. | |
| (1, 0) 67 | O'r gora', Syr. |
| (Botha) 'Dydy' o ddim ond tipyn o wendid. | |
| (Botha) 'Fynnwn i mo'i phoeni heb eisiau. | |
| (1, 0) 71 | Ond os bydd hi'n gofyn imi, Syr? |
| (Botha) 'Dwyt ti'n gwybod dim. | |
| (Botha) Celwydd gola', Amos,— dyw hwnnw ddim yn bechod! | |
| (1, 0) 74 | Nac ydy', Mr. Botha. |
| (Botha) 'Oes yna rywbeth ar dy feddwl di? | |
| (Botha) 'Oes yna rywbeth ar dy feddwl di? | |
| (1, 0) 76 | Fi —? |
| (Botha) 'Rwy' i wedi sylwi arnat ti yn ddiweddar yma. | |
| (Botha) Fel petai ofn arnat ti. | |
| (1, 0) 80 | Dim ond ychydig o bryder, Syr: y ferch fach yn wael... a chwitha', Syr. |
| (Botha) O, 'rwy'n gweld. | |
| (Botha) Rhaid iti fod yn fwy ffyddiog, wyddost ti. | |
| (1, 0) 86 | Rhaid, Syr. |
| (Botha) 'Rwyt ti'n was da a ffyddlon, Amos. | |
| (1, 0) 91 | Petai pawb 'r un fath â chi, Syr... |
| (Botha) Ia, Amos? | |
| (1, 0) 94 | O, fi ddim yn gwybod beth i' ddweud... |
| (1, 0) 95 | Maddeuwch imi... |
| (1, 0) 96 | Fi'n mynd i wneud eich llefrith yn barod. |
| (Botha) O'r gora'. | |
| (Botha) Cofia ddweud sut y bydd dy ferch fach o bryd i bryd. | |
| (1, 0) 101 | Diolch ichi, Syr. |
| (1, 0) 102 | Chi'n garedig iawn. |
| (1, 0) 103 | Diolch yn fawr. |
| (Botha) Paid â sôn. | |
| (Botha) Fe ddaw yma cyn bo hir, mae'n debyg. | |
| (1, 0) 260 | Dr. Hoffman, Syr. |
| (Hoffman) Botha, 'glywaist ti am y pwll? | |
| (Botha) Mae arna' i ei heisiau, Duw a ŵyr: mae ar y wlad ei heisiau. | |
| (1, 0) 612 | Mr. Karl Hendricks! |
| (Helga) {Yn gythryblus.} | |
| (Botha) Mi rown i unrhyw beth i gael gafael ynddo fo! | |
| (1, 0) 886 | Esgusodwch fi, Syr. |
| (1, 0) 889 | Chi ddim wedi yfed y llefrith, Syr. |
| (Botha) Hidia befo'r llefrith, Amos. | |
| (Botha) Tyrd yma. | |
| (1, 0) 893 | Syr? |
| (Botha) Beth a wyddost ti am hwn? | |
| (Botha) Beth a wyddost ti am hwn? | |
| (1, 0) 896 | Syr? |
| (Botha) O, paid â bod mor hurt! | |
| (Botha) Edrych arno. | |
| (1, 0) 900 | Fi ddim yn medru darllen yn dda, Syr. |
| (Botha) Ys gwn i!... | |
| (Botha) Welaist ti o o'r blaen? | |
| (1, 0) 903 | Naddo, Syr. |
| (Botha) Edrych ym myw fy llygaid, Amos. | |
| (Botha) 'Wyt ti'n dweud y gwir? | |
| (1, 0) 906 | Ydw', Syr. |
| (1, 0) 907 | Fi'n dweud y gwir. |
| (Botha) {Saib ennyd.} | |
| (1, 0) 914 | "Salvadór"! |
| (Botha) Ia. | |
| (Botha) 'Wyddost ti pwy ydy' o? | |
| (1, 0) 917 | Syr? |
| (Botha) Ateb fy nghwestiwn, 'wyddost ti pwy ydy' o? | |
| (Botha) Ateb fy nghwestiwn, 'wyddost ti pwy ydy' o? | |
| (1, 0) 919 | Na wn, Syr... |
| (1, 0) 920 | Wedi clywed yr enw, dyna'r cyfan. |
| (1, 0) 921 | Mae'r dref i gyd wedi clywed yr enw. |
| (1, 0) 922 | Ond fi ddim yn gwybod, Syr. |
| (Botha) 'Wyt ti'n siŵr, rŵan? | |
| (Botha) 'Wyt ti'n siŵr, rŵan? | |
| (1, 0) 924 | Ydw', Syr. |
| (1, 0) 925 | Coeliwch fi, Syr, fi byth yn gwrando ar neb. |
| (1, 0) 926 | Gwneud fy ngwaith yn ddistaw a meindio fy musnes. |
| (Botha) O'r gora', 'rwy'n dy goelio. | |
| (Botha) 'Ydy' hynna'n glir? | |
| (1, 0) 930 | 'Ydy', Syr... |
| (1, 0) 931 | 'Oes yna rywbeth arall, Syr? |
| (Botha) Na, dyna'r cyfan. | |
| (Helga) Amos, aros am funud. | |
| (1, 0) 937 | Ia, Miss Helga? |
| (Helga) 'Nhad, 'ga' i roi ychydig o flodau iddo i fynd i'w ferch fach? | |
| (Helga) Mi gei fynd â nhw adre' heno. | |
| (1, 0) 946 | Diolch ichi, Miss Helga. |
| (1, 0) 947 | Fe fydd wrth ei bodd. |
| (1, 0) 948 | Bob dydd mae hi'n sôn am flodau. |
| (1, 0) 949 | Chi a Mr. Botha yn garedig iawn. |
| (1, 0) 950 | Diolch yn fawr ichi. |