| (Tom) Hen bethau di-ddim. | |
| (Ann) Dewch i mewn Mr Morgan. | |
| (1, 0) 465 | Diolch yn fawr, Mrs James. |
| (Tom) Beth wyt ti eisiau? | |
| (Ann) Rhaid i chi beidio â chymryd sylw ar beth mae e'n ei ddweud, Mr Morgan. | |
| (1, 0) 470 | Popeth yn iawn, Mrs James. |
| (Ann) Dyw e ddim wedi bod yn teimlo'n dda ers rhai dyddiau... | |
| (Ann) Dyw e ddim wedi bod yn teimlo'n dda ers rhai dyddiau... | |
| (1, 0) 472 | Deall yn iawn, Mrs James, deall yn iawn. |
| (Ann) {Gan arwyddo at gadair.} | |
| (1, 0) 476 | Diolch yn fawr. |
| (1, 0) 478 | Wedi dod â rhywbeth bach i'r claf hefyd.... |
| (Tom) {Gan gydio yn y cwdyn yn swta.} | |
| (Ann) Os gwnewch chi fy esgusodi? | |
| (1, 0) 498 | Wrth gwrs, Mrs James, wrth gwrs. |
| (1, 0) 500 | Wel, sut wyt ti'r hen gyfaill? |
| (Tom) Dydw i ddim yn hen gyfaill i ti. | |
| (Tom) Beth wyt ti eisiau? | |
| (1, 0) 503 | Wedi clywed yn y pentref nad wyt ti ddim yn dda. |
| (1, 0) 505 | Wel, wyt ti yn sâl? |
| (Tom) Na, rwy i bob amser yn fy ngwely am ddeg o'r gloch yn y bore. | |
| (Tom) Wrth gwrs 'mod i'n sâl. | |
| (1, 0) 509 | Be' sy'n bod 'te? |
| (Tom) Rwy' wedi cael annwyd. | |
| (Tom) Rwy' wedi cael annwyd. | |
| (1, 0) 511 | Ai dyna'r cyfan? |
| (Tom) Mae hynny'n hen ddigon. | |
| (Tom) Mae hynny'n hen ddigon. | |
| (1, 0) 513 | Dim byd mwy... wel... mwy difrifol? |
| (Tom) Be' ti'n feddwl? | |
| (Tom) Be' ti'n feddwl? | |
| (1, 0) 515 | Wel, mae dôs o annwyd yn beth mor gyffredin. |
| (Tom) Does dim byd yn gyffredin am yr hyn sy' gen i. | |
| (Tom) Does dim byd yn gyffredin am yr hyn sy' gen i. | |
| (1, 0) 517 | Ac mae pawb yn cael annwyd weithiau. |
| (Tom) Dim mor ddrwg ag yr ydw i'n ei gael e. | |
| (Tom) Dim mor ddrwg ag yr ydw i'n ei gael e. | |
| (1, 0) 519 | Os wyt ti'n dweud. |
| (1, 0) 520 | Mae'n rhaid fy mod i wedi eu camddeall. |
| (Tom) Camddeall pwy? | |
| (Tom) Camddeall pwy? | |
| (1, 0) 522 | Wel, roedd pawb yn dweud... |
| (Tom) Beth roedd pawb yn ddweud? | |
| (1, 0) 525 | Dim byd o bwys. |
| (1, 0) 526 | Anghofia'r peth. |
| (1, 0) 528 | Wyt ti'n barod am y gêm ddydd Sadwrn 'te? |
| (1, 0) 529 | Roeddwn i'n clywed fod Gerallt wedi ffeindio sêt yn arbennig i ti. |
| (Tom) Do, chwarae teg iddo. | |
| (Tom) Do, chwarae teg iddo. | |
| (1, 0) 531 | Mi gei weld y cyfan yn glir. |
| (Tom) Mae hynny'n dibynnu os ca' i fynd, yn dyw e? | |
| (Tom) Mae hynny'n dibynnu os ca' i fynd, yn dyw e? | |
| (1, 0) 533 | Be ti'n feddwl? |
| (Tom) Fe ddywedodd y Doctor y dyliwn i aros yn y gwely. | |
| (Tom) Fe ddywedodd y Doctor y dyliwn i aros yn y gwely. | |
| (1, 0) 535 | Am faint? |
| (Tom) Am rhyw ddiwrnod neu ddau o leiaf. | |
| (1, 0) 538 | Am rhyw ddiwrnod neu ddau? |
| (1, 0) 539 | O leiaf? |
| (Tom) Ie, dyna ddywedodd y Doctor. | |
| (1, 0) 542 | Mi fyddi yn dy wely dros y penwythnos 'te? |
| (Tom) Fel hynny mae'n edrych rŵan. | |
| (1, 0) 547 | Dim ond poeni am iechyd hen gyfaill. |
| (Tom) Boenaist ti erioed am hynny cyn hyn. | |
| (Tom) Rwy'n dechrau deall rŵan! | |
| (1, 0) 552 | Deall beth? |
| (1, 0) 553 | Does yna ddim i'w ddeall. |
| (Tom) Roeddwn i'n amau dy fod ti eisiau rhywbeth. | |
| (Tom) Roeddwn i'n amau dy fod ti eisiau rhywbeth. | |
| (1, 0) 555 | Dw i ddim eisiau dim. |
| (Tom) {Yn bendant.} | |
| (Tom) Taset ti'n mynd ar dy liniau i ofyn, 'na' fyddai'r ateb bob tro. | |
| (1, 0) 559 | Beth? |
| (1, 0) 560 | Ond dwi ddim yn.... |
| (Tom) Waeth i ti heb, rwy'n dy nabod di'n rhy dda. | |
| (Tom) Bob amser eisiau rhywbeth! | |
| (1, 0) 563 | Ond Tomos! |
| (Tom) Paid ti â rhoi "Ond Tomos!" i mi. | |
| (Tom) Na, na, na! | |
| (1, 0) 568 | Ond Tomos... |
| (Tom) Chei di mo'r tocyn. | |
| (Tom) Chei di mo'r tocyn. | |
| (1, 0) 570 | Ond mae'n drueni ei wastraffu... |
| (Tom) Byddai'n well gen i losgi'r diawl cyn ei roi i ti o bawb. | |
| (Tom) Byddai'n well gen i losgi'r diawl cyn ei roi i ti o bawb. | |
| (1, 0) 572 | Ond Tomos bach... |
| (Tom) Chei di mo'r tocyn i'r gêm ddydd Sadwrn, waeth i ti heb na holi. | |
| (Tom) A cer â dy grêps gen ti. | |
| (1, 0) 576 | Ond Tomos... |
| (Tom) Byth! | |
| (Tom) {Mae Tom yn stopio yn sydyn ac yn gafael yn ei stumog mewn poen.} | |
| (1, 0) 581 | Tomos? |
| (1, 0) 582 | Be' sy'? |
| (1, 0) 583 | Wyt ti'n sâl? |
| (1, 0) 585 | Be' sy' bod? |
| (Tom) Hanna Morris. | |
| (Tom) Hanna Morris. | |
| (1, 0) 587 | Beth? |
| (Tom) Hen stwff Hanna Morris. | |
| (Tom) Cer o'r ffordd! | |
| (1, 0) 592 | Beth? |
| (1, 0) 594 | Ond Tomos... |
| (1, 0) 595 | Beth am y tocyn... |
| (Megan) Dech chi wedi colli rhywbeth, Mr Morgan? | |
| (1, 0) 602 | Beth! |
| (1, 0) 603 | O, chi sy' yna Mrs Puw! |
| (1, 0) 604 | Wnes i ddim clywed chi'n dod i mewn. |
| (Megan) Naddo, mae'n debyg. | |
| (Megan) Beth oe'ch chi'n wneud o dan y fatres 'na 'te? | |
| (1, 0) 607 | Mae hynny'n gwestiwn da, Mrs Puw ─ cwestiwn da iawn. |
| (Megan) Wel? | |
| (Megan) Wel? | |
| (1, 0) 609 | Ie, wel... |
| (1, 0) 610 | Rwy'n sylweddoli fod e'n edrych yn od iawn ond mi alla' i esbonio'r cyfan... |
| (Megan) Mae'n dda gen i glywed hynny. | |
| (Megan) Mae'n dda gen i glywed hynny. | |
| (1, 0) 612 | Dech chi'n gweld... |
| (1, 0) 613 | Y rheswm i mi edrych dan y fatres... |
| (Megan) Ie? | |
| (Megan) Ie? | |
| (1, 0) 615 | Ie... |
| (1, 0) 616 | Wel... |
| (1, 0) 617 | Roedd yn rhaid i mi edrych yno er mwyn ceisio chwilio am... am... amdano. |
| (Megan) Chwilio am beth? | |
| (Megan) Chwilio am beth? | |
| (1, 0) 619 | Hynny yw, meddwl efallai fod e' dan y fatres... ac felly, yn meddwl mai'r peth gorau fyddai edrych i wneud yn siŵr... |
| (1, 0) 620 | Ond dyw e' ddim yna, ac felly doedd dim angen chwilio dan y fatres wedi'r cyfan... |
| (1, 0) 621 | Ond wrth gwrs, doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd. |
| (Megan) Dw i ddim yn deall... | |
| (Megan) Dw i ddim yn deall... | |
| (1, 0) 623 | Mae'r peth yn hollol syml. |
| (1, 0) 624 | Wyddwn i ddim cyn edrych fod e ddim yna, ond rŵan rwy' wedi edrych ac rwy'n gwybod fod e' ddim yna. |
| (1, 0) 625 | Wrth gwrs, tasen ni'n gwybod hynny cyn i mi edrych, faswn i ddim wedi mynd i'r drafferth o edrych, ond doeddwn i ddim yn gwybod hynny cyn i mi edrych, ac felly dyna oeddwn i'n wneud pan ddaethoch chi i mewn. |
| (1, 0) 626 | Rwy'n siŵr fod hynna'n esbonio'r cyfan... |
| (Megan) {Yn amheus.} | |
| (Megan) Wel... | |
| (1, 0) 629 | Iawn. |
| (1, 0) 630 | Os wnewch chi fy esgusodi i, mae'n rhaid i mi fynd. |
| (1, 0) 631 | Gwaith yn disgwyl ynte! |
| (1, 0) 632 | Neis iawn eich gweld chi. |
| (1, 0) 633 | Hwyl rŵan. |