| (1, 0) 45 | Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon |
| (1, 0) 46 | O lu Philistia'n crefu am gadoediad |
| (1, 0) 47 | I gladdu'n meirw, 'chadwai o monom cyd. |
| (Hŵsai) {Gan fwyta grawnwin o'r swp.} | |
| (Hŵsai) Fe gŵyd y Brenin toc. Gan bwyll! Gan bwyll! | |
| (1, 0) 51 | Rhwydd, f'arglwydd Hŵsai, ydyw dweud "Gan bwyll." |
| (1, 0) 52 | Mae'r wlad yn anesmwytho. Pa sawl cyngaws |
| (1, 0) 53 | Sy'n aros heb ei farnu gan y Brenin? |
| (1, 0) 54 | A pha sawl cennad daer o ba sawl gwlad |
| (1, 0) 55 | Sy'n ceisio cynghrair—heb gael gweld ei wedd? |
| (1, 0) 56 | "Dowch eto yfory, ac fe'ch gwêl ein Harglwydd, |
| (1, 0) 57 | Nid yw mor hwylus heddiw." |
| (Hŵsai) Mae ei wedd | |
| (Hŵsai) Tan gwmwl am fod cwmwl ar ei feddwl. | |
| (1, 0) 60 | Ac enw'r cwmwl ydyw ystyfnigrwydd! |
| (Hŵsai) Ac enw'r cwmwl, f'arglwydd, ydyw hiraeth. | |
| (1, 0) 71 | Priod ei ienctid! |
| (1, 0) 72 | Main ac unionsyth fel palmwydden ifanc, |
| (1, 0) 73 | Nid fel Bathseba, ein buwch-frenhines hon. |
| (Hŵsai) {Gan daflu trem bryderus i gyfeiriad porth y gwragedd a gostwng ei lais.} | |
| (1, 0) 80 | Tair blynedd y cynllwyniodd hi'n ddeheuig, |
| (1, 0) 81 | O'r diwrnod yr aeth Absalom ar ffo; |
| (1, 0) 82 | Tair blynedd, er mwyn i Solomon ei mab |
| (1, 0) 83 | Gael bod yn frenin ar ôl marw'i dad. |
| (Hŵsai) Nid hwnnw ond Absalom ydyw'r etifedd. | |
| (Hŵsai) Er bod yn alltud. | |
| (1, 0) 87 | Alltud! Am ba hyd? |
| (1, 0) 88 | Mae'r bobol yn hiraethu am weld ei harddwch. |
| (1, 0) 89 | Tywysog Jwda ac Anwylyd Hebron, |
| (1, 0) 90 | A gerddai trwy Gaersalem gynt fel angel, |
| (1, 0) 91 | A'r haul yn sgleinio ar ei hirwallt hardd. |
| (Hŵsai) Hyd ddydd ei drosedd. Na, nid angel oedd | |
| (Hŵsai) Nid hawdd yw maddau lladd etifedd y goron. | |
| (1, 0) 96 | Mae'r bobol wedi maddau iddo. Rhagor, |
| (1, 0) 97 | Yr Amnon hwnnw, fe lwyr haeddodd angau. |
| (1, 0) 98 | Ystyria—treisio'i hanner-chwaer fel bwch, |
| (1, 0) 99 | A'i chwipio wedyn, tan ei gwarth, o'i dŷ; |
| (1, 0) 100 | Y Dywysoges Tamar, hoff chwaer Absalom. |
| (1, 0) 101 | Yntau, pan welodd ing ei brydferth chwaer, |
| (1, 0) 102 | A'i chael, â'i gwisg symudliw wedi ei rhwygo, |
| (1, 0) 103 | Yn crogi oddi ar ddist ei stafell wely, |
| (1, 0) 104 | Fe dyngodd lw gerbron yr uchel Iôr |
| (1, 0) 105 | I'w dial, —merch ei mam, o fflam a fflur. |
| (1, 0) 106 | Felly, yr hyn a wnaed yng Ngwledd Baal-hasor |
| (1, 0) 107 | Â'r gyllell hir, 'doedd hynny ond cyfiawn dâl |
| (1, 0) 108 | I gnaf na fynnai'r Brenin ei hun ei gosbi; |
| (1, 0) 109 | Bwystfil na haeddai fyw, a bwch direol, |
| (1, 0) 110 | Pa fodd y gallai hwnnw reoli cenedl? |
| (1, 0) 111 | Mae'r bobol wedi maddau i Absalom, |
| (1, 0) 112 | Fel y maddeuais innau. |
| (Hŵsai) {Gan godi ac estyn afal o'r bwrdd.} | |
| (Hŵsai) Ond nid y Brenin. | |
| (1, 0) 115 | Maddeuodd yntau iddo yn ei galon. |
| (1, 0) 116 | Ac felly enw'r cwmwl yw ystyfnigrwydd! |
| (1, 0) 117 | Ystyria, f'arglwydd Hŵsai, fod gŵr mor fawr |
| (1, 0) 118 | Yn gadael i falchder sefyll rhyngddo a'i gysur. |
| (1, 0) 119 | Un gair, un amnaid llaw, un gogwydd pen, |
| (1, 0) 120 | A alwai ei anwylyd ato'n ôl. |
| (1, 0) 121 | Ond fel mai byw yr Arglwydd, daeth drwg ysbryd |
| (1, 0) 122 | Ar Ddafydd Frenin megis cynt ar Saul. |
| (Hŵsai) O! na bai telyn heddiw a fedrai ymlid | |
| (Hŵsai) {Gan edrych ar y delyn ar yr hoel.} | |
| (1, 0) 129 | Am hynny, f'arglwydd Hŵsai, rhaid it fentro |
| (1, 0) 130 | Cynghori'r brenin i alw Absalom adref. |
| (Hŵsai) 'Ryfygodd neb ei enwi ers tair blynedd | |
| (Hŵsai) Fel rhuad llew o'i ffau. Pwy a'i gwrthsaif? | |
| (1, 0) 134 | A ffafr y brenin megis gwlith ar laswellt |
| (1, 0) 135 | I'r neb sy'n ennill diolch ganddo a gras. |
| (1, 0) 136 | Llefara wrtho heddiw. |
| (Hŵsai) {Gan ddal i fwyta'r afal.} | |
| (Hŵsai) Mae'n antur enbyd. | |
| (1, 0) 140 | Mwy enbyd bod yn fud |
| (1, 0) 141 | A'r deyrnas a sefydlodd yn dadfeilio |
| (1, 0) 142 | Er mawr lawenydd i'r dienwaededig. |
| (1, 0) 143 | Gŵyr gwlad mai hi, y sarff wenwynig, a'i hudodd gynt |
| (1, 0) 144 | I odinebus frad, trwy ladd y dewr |
| (1, 0) 145 | Ureias, ei Gapten ffyddlon,—mai hyhi |
| (1, 0) 146 | Sy'n llywodraethu'r llys. |
| (Hŵsai) Hyn a ŵyr gwlad, | |
| (Hŵsai) Ciliodd ei thegwch ac fe ymfrasaodd. | |
| (1, 0) 151 | Hon sydd yn tynnu barn ar Israel. |
| (Hŵsai) Ac eto hi a eilw o'n Frenhines, | |
| (1, 0) 155 | Duw a'i tago! |
| (1, 0) 156 | Haws ganddo wrando arni na'i Gynghorwyr! |
| (Hŵsai) Hist! | |
| (1, 0) 163 | Hy! Nathan broffwyd! |
| (1, 0) 164 | Condemniwr eon eu godineb gynt! |
| (Hŵsai) Llogodd y gyfrwys ef yn athro i'w mab | |
| (Hŵsai) A diarhebion hwn o enau'r llanc. | |
| (1, 0) 168 | Megis y llif yn ddiau'r siclau arian |
| (1, 0) 169 | O goffr brenhines i goffr gwas yr Arglwydd. |
| (Hŵsai) I ddofi proffwyd, gwna fo'n gaplan llys! | |
| (Hŵsai) I ddofi proffwyd, gwna fo'n gaplan llys! | |
| (1, 0) 171 | Ond ti a mi, nis dofwyd, f'arglwydd Hŵsai. |
| (Hŵsai) Ac nid er siclau hon y'n prynir ni. | |
| (Hŵsai) Ac nid er siclau hon y'n prynir ni. | |
| (1, 0) 173 | Ac nid er siclau hon y prynir Israel |
| (1, 0) 174 | I dderbyn mab y butain! Coelia fi, |
| (1, 0) 175 | Un enw'n unig a ddichon uno'r llwythau |
| (1, 0) 176 | Ac arbed rhyfel cartref a thywallt gwaed |
| (1, 0) 177 | Ar ôl marwolaeth Dafydd,—Absalom! |
| (Hŵsai) Duw a'i dychwelo. | |
| (Hŵsai) Duw a'i dychwelo. | |
| (1, 0) 179 | Rhaid llefaru heddiw. |
| (1, 0) 180 | A thithau, f'arglwydd Hŵsai, cyfaill Dafydd, |
| (1, 0) 181 | Yw'r gŵr i ymliw â'r Brenin ar ei ran. |
| (1, 0) 182 | Awn i'w ystafell cyn ein galw. Heddiw |
| (1, 0) 183 | Rhaid iti ei ddarbwyllo. Os arhoswn |
| (1, 0) 184 | Hyd ddydd y Cyngor, byddwn yn rhy hwyr. |
| (1, 0) 185 | Duw roddo inni lwyddiant. |
| (Hŵsai) Onis rhydd, | |
| (Hŵsai) Ffarwel, hen ffrind; ffarwel oleuni'r dydd. | |
| (1, 0) 189 | Tyred i ffau y llew; ond cofia hyn— |
| (1, 0) 190 | Yn llaw yr Arglwydd y mae calon brenin, |
| (1, 0) 191 | Ac megis afon ddwfr yn troi o'i gwely |
| (1, 0) 192 | Yntau a'i try hi fel y mynno Ef. |
| (Joab) {Yn goeglyd.} | |
| (Abisâg) Er mwyn llawenydd, galw Absalom! | |
| (1, 0) 884 | Er mwyn y llwythau, galw Absalom! |
| (Joab) Er mwyn y fyddin, galw Absalom! | |
| (Absalom) Newyddion drwg o Hebron, lle y'm ganed? | |
| (2, 1) 1082 | Ie, o Hebron. 'Roedd ein harglwydd frenin |
| (2, 1) 1083 | Yn awr yn trafod Hebron gyda'i Gyngor. |
| (Dafydd) Dwedwch yr helynt wrth fy nhywysogion, | |
| (Dafydd) A thraethent hwythau'u barn. | |
| (2, 1) 1086 | Clywch, fy arglwyddi, |
| (2, 1) 1087 | O'r cychwyn ni bu Dinas Hebron fodlon |
| (2, 1) 1088 | Ar osod ein prifddinas yng Nghaersalem. |
| (Absalom) Nid rhyfedd chwaith! Fy Hebron hardd a hen, | |
| (Absalom) Ond urddas llên ac iaith a hir wasanaeth. | |
| (2, 1) 1105 | Mae Hebron wedi gwrthod treth y Brenin. |
| (Hŵsai) I'w gwario ar Gaersalem, meddant hwy! | |
| (Dafydd) Er mwyn gogoniant y Goruchaf Dduw. | |
| (2, 1) 1172 | Hyn oll a gymer amser. Eithr heddiw |
| (2, 1) 1173 | Y gwrthyd Hebron anfon treth y Brenin |
| (2, 1) 1174 | I lys Caersalem. _ Beth a wnawn ni heddiw |
| (2, 1) 1175 | Â thref wrthnysig? |
| (Absalom) Fy mrenhinol dad, | |
| (Absalom) Ac felly yr enillwn yr Hebroniaid. | |
| (2, 1) 1184 | Cyngor rhagorol—teilwng o Fab Dafydd. |
| (Dafydd) Llwydded yr Iôr d'ymweliad, Absalom, | |
| (Dafydd) Yn ddydd o lawen chwedl trwy'r holl wlad. | |
| (2, 1) 1202 | Ai diogel mynd o'n Twysog Absalom |
| (2, 1) 1203 | Ei hun i Ddinas Hebron? Oni ddwedant |
| (2, 1) 1204 | "Gyrasom weision Dafydd adre'n waglaw |
| (2, 1) 1205 | Mewn dirmyg, pan ddoent yma i gasglu'r dreth. |
| (2, 1) 1206 | Mae'r Brenin yn ein hofni; ac yn awr |
| (2, 1) 1207 | Gyrrodd Ei fab i geisio ein perswadio; |
| (2, 1) 1208 | Hwn ydyw yr etifedd, lladdwn ef." |
| (Joab) Go brin, a chanddo hanner cant o wŷr | |
| (Joab) Tan arfau'n rhedeg gyda'i gerbyd rhyfel! | |
| (2, 1) 1211 | Gadfridog Joab, dwedaist fod byddin gref |
| (2, 1) 1212 | Yn uno cenedl ac yn gwarchod heddwch. |
| (2, 1) 1213 | Rho iddo bumcant arall o wŷr traed |
| (2, 1) 1214 | Yn osgordd ar ei daith i ddinas Hebron. |
| (Joab) Pum cant! Pum cant o wŷr? Pan wêl gwŷr Hebron. | |
| (Joab) Yn osgordd deilwng o Dywysog Jwda. | |
| (2, 1) 1225 | Trwy gennad f'arglwydd frenin, mi af finnau |
| (2, 1) 1226 | Gyda'r Tywysog. Yn ddiau, fe ddaw Cyngor |
| (2, 1) 1227 | Henuriaid Hebron allan i'w groesawu. |
| (2, 1) 1228 | Fe fydd eu geiriau fel y diliau mêl, |
| (2, 1) 1229 | A wermod yn eu calon o ran y dreth. |
| (2, 1) 1231 | Rhaid wrth hynafgwr i weld trwy hynafgwŷr |
| (2, 1) 1232 | A'u holl ystrywiau politicaidd, |
| (Dafydd) Dos, | |
| (Dafydd) Fel gair y nef ei hun. | |
| (2, 1) 1238 | Gadfridog Joab, |
| (2, 1) 1239 | A ddeui dithau i'n canlyn? |
| (Joab) {Wedi ystyried.} | |
| (Dafydd) Ein cyfarch i fab Sadoc yr Offeiriad! | |
| (2, 1) 1321 | Paham y rhedaist? |
| (Ahimâs) Gweld Joab ar y ffordd | |
| (Ahimâs) Dwfr, deg arglwyddes;—yr wyf tan ddisgyblaeth. | |
| (2, 1) 1335 | Nid cwrtais yfed dwfr yn Llys y Brenin. |
| (Abisâg) Nid gwaeth a yfo i'r Brenin mewn dwfr oer | |
| (Absalom) Duw gadwo'r Brenin. | |
| (2, 1) 1393 | Ni ellir lladd y brenin. |
| (Absalom) {Yn frawychus.} | |
| (Absalom) Beth a ddywedaist-ti? | |
| (2, 1) 1396 | Wrth chwarae gwyddbwyll |
| (2, 1) 1397 | Mae rheol od na ellir lladd y brenin, |
| (2, 1) 1398 | 'Waeth pa mor anobeithiol fyddo'r safle. |
| (Absalom) Ond gellir cau amdano a'i ddirymu. | |
| (Absalom) Ond gellir cau amdano a'i ddirymu. | |
| (2, 1) 1400 | Siŵr iawn,—a dyna derfyn ar y chwarae... |
| (Absalom) Be' ddwedwn-ni wrth bobol Hebron 'fory? | |
| (Absalom) Be' ddwedwn-ni wrth bobol Hebron 'fory? | |
| (2, 1) 1402 | Ofer fydd dwedyd dim. |
| (Absalom) Ofer, fy arglwydd? | |
| (Absalom) Ofer, fy arglwydd? | |
| (2, 1) 1404 | Ofer, tra byddo Dafydd ar yr orsedd. |
| (2, 1) 1405 | Fe'u digiodd hwynt, ac ni faddeuant byth. |
| (Absalom) Trwy symud ei brifddinas i Gaersalem? | |
| (Absalom) Trwy symud ei brifddinas i Gaersalem? | |
| (2, 1) 1407 | Fe ddoent dros hynny... Yr hyn ni faddau gwlad |
| (2, 1) 1408 | I frenin yw priodi gyda'i butain. |
| (Absalom) Hen stori ddeunaw mlynedd! Dwyt ti 'rioed | |
| (Absalom) Yn dal yn ddigllon am yr anffawd hwnnw? | |
| (2, 1) 1411 | Y wlad sy'n dal ei dig. Nid anghofiasant |
| (2, 1) 1412 | I frenin Israel yrru capten dewr |
| (2, 1) 1413 | I'w dranc tan arfau'r gelyn, am fod chwant |
| (2, 1) 1414 | Am wraig Ureias wedi ei wneud mor ffôl |
| (2, 1) 1415 | A gorwedd gyda hi, a'i gŵr yn y gad. |
| (Absalom) Gad i'r hen stori. Oni thalodd Dafydd | |
| (Absalom) Pa synnwyr i |ti| ddal yn ddig o hyd? | |
| (2, 1) 1420 | Fe'i priododd-hi,—a dyna gŵyn ei wlad. |
| (2, 1) 1421 | Dywysog, sôn yr ydym am wleidyddiaeth, |
| (2, 1) 1422 | Am agwedd Hebron, nid fy agwedd i. |
| (2, 1) 1423 | Pam na chymerodd hi yn ordderch iddo? |
| (2, 1) 1424 | Goddefent hynny... Yr hyn ni faddau gwlad |
| (2, 1) 1425 | I frenin byth ydyw priodi ei butain. |
| (Absalom) Beth sydd a wnelo hynny â threthi Hebron? | |
| (Absalom) Beth sydd a wnelo hynny â threthi Hebron? | |
| (2, 1) 1427 | Mwy nag a dybi-di... Pa bryd y gwelaist |
| (2, 1) 1428 | Bathseba olaf? |
| (Absalom) Welais-i mo'r Frenhines | |
| (Absalom) Mae Solomon a minnau'n eithaf ffrindiau. | |
| (2, 1) 1434 | Wyddost-ti ddim p'le mae-hi? |
| (Absalom) Na wn i. | |
| (Absalom) Clywais ei bod ar daith i weld ei thylwyth. | |
| (2, 1) 1437 | O! mae hi'n gyfrwys; ond mae sbïwyr da'n |
| (2, 1) 1438 | Glustiau a llygaid gennyf trwy'r holl deyrnas. |
| (2, 1) 1439 | Ym Methlehem y mae-hi, yn gweithio cynllwyn |
| (2, 1) 1440 | Gyda Beneia i'th anfon di'n llysgennad |
| (2, 1) 1441 | I Tyrus bell, ac wedyn codi plaid |
| (2, 1) 1442 | I |wneud| i'r Brenin enwi Solomon |
| (2, 1) 1443 | Fel ei olynydd, a'i arwisgo felly. |
| (Absalom) 'Feiddiai-hi byth. | |
| (Absalom) 'Feiddiai-hi byth. | |
| (2, 1) 1445 | Fe feiddiai unrhyw beth |
| (2, 1) 1446 | Er mwyn ei mab, o'r dydd y daethost adref. |
| (Absalom) Beth yw dy gyngor? | |
| (Absalom) Beth yw dy gyngor? | |
| (2, 1) 1448 | F'arglwydd Dywysog, |
| (2, 1) 1449 | Camp fawr y gwleidydd yw marchogaeth plaid. |
| (2, 1) 1450 | Pan gyrchwn Hebron 'fory â'n gosgordd gref, |
| (2, 1) 1451 | Yn lle'u gwastrodi, lediwn eu gwrthryfel; |
| (2, 1) 1452 | Ac Absalom fydd yn teyrnasu yn Hebron. |
| (Absalom) F'arglwydd Ahitoffel, bradwriaeth yw! | |
| (Absalom) F'arglwydd Ahitoffel, bradwriaeth yw! | |
| (2, 1) 1454 | Dywysog, 'rwy'n rhy hen i air fy nychryn, |
| (2, 1) 1455 | Fel bygwth bwcan ar ryw blantos ofnus. |
| (2, 1) 1456 | Os achub gwlad rhag rhwygiad yw bradwriaeth, |
| (2, 1) 1457 | A diogelu Dafydd, galw fi'n fradwr; |
| (2, 1) 1458 | Os gweld ymhellach na'n gelynion craff |
| (2, 1) 1459 | A tharo'r ergyd gyntaf yw bradwriaeth, |
| (2, 1) 1460 | Os rhoi mewn grym dy weledigaeth fawr |
| (2, 1) 1461 | Am uno'r llwythau oll trwy rin un deml |
| (2, 1) 1462 | Yw bod yn fradwr, yna bradwr wyf. |
| (2, 1) 1463 | Oherwydd safaf tros dy hawl hyd angau. |
| (Absalom) A phe cytunwn, byddai 'nhad yn ddiogel? | |
| (2, 1) 1466 | Ni leddir brenin gan chwaraewyr gwyddbwyll. |
| (2, 1) 1467 | Digon fydd cau o'i gwmpas a'i ddirymu, |
| (2, 1) 1468 | Megis y dwedaist,—dal i'w alw'n frenin |
| (2, 1) 1469 | A'r wir lywodraeth ar dy ysgwydd di. |
| (2, 1) 1471 | Edrych, Dywysog, edrych! Dyma'r goron |
| (2, 1) 1472 | A wisgwyd gynt gan frenin cyntaf Israel |
| (2, 1) 1473 | Yn nydd ei nerth, yna gan Ddafydd Fawr; |
| (2, 1) 1474 | A gaiff hi fynd yn drydydd, gennyt ti, |
| (2, 1) 1475 | I laslanc preplyd o dan fawd ei fam |
| (2, 1) 1476 | Am fod y gwir etifedd yn rhy lednais |
| (2, 1) 1477 | I ddal ar gyfle? |
| (Absalom) Na chaiff, yn enw Duw! | |
| (2, 1) 1481 | Pan awn i Hebron |
| (2, 1) 1482 | Yfory, a'r osgordd gadarn gyda ni, |
| (2, 1) 1483 | Fe'th gyfyd dy gyd-drefwyr di'n gyd-frenin. |
| (Absalom) Beth am Gaersalem? | |
| (Absalom) Beth am Gaersalem? | |
| (2, 1) 1485 | Gyda sydyn gyrch, |
| (2, 1) 1486 | Y dydd pan gedwir gŵyl yn Llys Caersalem |
| (2, 1) 1487 | I ganlyn dawns a gwin, disgynnwn arnynt, |
| (2, 1) 1488 | Nyni a thylwyth Hebron. Yn eu braw |
| (2, 1) 1489 | A'u syndod rhaid fydd derbyn ein telerau, |
| (2, 1) 1490 | A byddi'n frenin heb ddim tywallt gwaed. |
| (Absalom) {Gan esgyn ato i ymyl yr orseddfainc.} | |
| (2, 1) 1499 | A chodi yno |
| (2, 1) 1500 | Deyrnas arwrol, gref, a saif hyd heddiw! |
| (2, 1) 1502 | Na, fy Nhywysog, nid wyf ond hen ŵr |
| (2, 1) 1503 | A welodd fflam ei freuddwyd mewn gŵr ifanc |
| (2, 1) 1504 | A'i ddilyn ef hyd dranc. |
| (2, 1) 1506 | Bydded Gweledydd |
| (2, 1) 1507 | Yn eistedd bellach ar yr orsedd hon. |
| (2, 1) 1509 | A boed i minnau'r fraint yn gyntaf un |
| (2, 1) 1510 | O ddweud, "Byw byth fo'r Brenin Absalom!" |
| (2, 3) 1845 | Ond nid o gyrraedd |
| (2, 3) 1846 | Cleddyf yr Arglwydd am eu drwg weithredoedd. |
| (2, 3) 1847 | Yn Llys y Brenin planner baner Barn! |
| (2, 3) 1849 | Edrych! Mae un ar ôl... Rhy feddw'n siŵr |
| (2, 3) 1850 | Pan ffodd y lleill o ganol gwledd a gwin. |
| (2, 3) 1853 | Deffro, y meddwyn swrth! |
| (Meffiboseth) {Yn deffro a gweled y cleddyf a sylweddoli'r sefyllfa.} | |
| (Meffiboseth) Y rhoddaist glust, fy mrawd, i'r dyn drwg hwn? | |
| (2, 3) 1865 | Dy frawd, ai e?... Penlinia i Frenin Israel. |
| (Meffiboseth) Ni allaf i benlinio; a phe gallwn | |
| (Meffiboseth) Hi a fu'n pledio drosof. | |
| (2, 3) 1875 | Rhagor o'i dichell, |
| (2, 3) 1876 | Er cael cefnogaeth gan Dŷ Saul i'w mab. |
| (Meffiboseth) O mor ddaionus ydoedd trigo o frodyr | |
| (2, 3) 1894 | 'Nawr, dim o'th gelwydd! Ple mae Coron Israel? |
| (Meffiboseth) {Yn eofn.} | |
| (Meffiboseth) Fynni-di win? | |
| (2, 3) 1909 | Na! Paid â'i yfed... Dichon bod gwenwyn ynddo. |
| (Meffiboseth) {Yn ddirmygus.} | |
| (Meffiboseth) Ni fynnai'n Tad fod croeso'i fab yn brin. | |
| (2, 3) 1924 | Sut yr wyt ti'n ei oddef? |
| (Absalom) Does dim twyll | |
| (Absalom) Na phrepian Meffiboseth. | |
| (2, 3) 1930 | Eistedd |di|, |
| (2, 3) 1931 | Fy Mrenin, yn gyntaf ar Orseddfainc Israel. |
| (Absalom) {Wedi symud y fantell liwus a adawsid gan Dafydd ar yr orsedd, ac yna sylweddoli'n sydyn mai mantell ei dad ydyw a'i hanwesu'n dyner wrth ei rudd heb i Ahitoffel weled, cyn ei gollwng ar lawr ag ochenaid.} | |
| (Absalom) "Duw gadwo Absalom!" a "Duw gadwo Dafydd!" | |
| (2, 3) 1940 | Petai ein byddin heddiw wedi cyrraedd |
| (2, 3) 1941 | Caersalem yn ddi-rybudd, felly y buasai. |
| (2, 3) 1942 | Naw wfft i'r gwyliwr dwl yn Ninas Hebron |
| (2, 3) 1943 | A dybiodd fod Cŵsi ar dy neges di! |
| (2, 3) 1944 | Cawsant ddwy awr o rybudd. |
| (Absalom) Nid heb waed | |
| (Absalom) Y dof yn frenin bellach. | |
| (2, 3) 1949 | 'Rwyt-ti'n frenin. |
| (2, 3) 1950 | Eisoes yn serch Caersalem. Gwrando arnynt! |
| (Absalom) {Yn wawdlyd.} | |
| (Absalom) Yfory'n bloeddio "Ymaith." | |
| (2, 3) 1957 | Gwrando 'nghyngor, |
| (2, 3) 1958 | Mae gennyf ffordd i droi eu ffydd yn ffaith. |
| (2, 3) 1959 | Camp fawr tywysog yw marchogaeth teimlad |
| (2, 3) 1960 | Y dyrfa. |
| (Hŵsai) Henffych well i'n brenin mwy. | |
| (Hŵsai) I hwnnw mae fy llw. | |
| (2, 3) 1971 | Fy arglwydd frenin |
| (2, 3) 1972 | Pan oeddit mewn alltudiaeth yn Gesŵr, |
| (2, 3) 1973 | Mentrodd fy arglwydd Hŵsai lid y brenin |
| (2, 3) 1974 | Trwy ei gynghori i'th alw adre'n ôl. |
| (Absalom) Do, nid anghofiais hynny, Ahitoffel. | |
| (Absalom) Ffordd i droi oriog ffydd y dyrfa'n ffaith. | |
| (2, 3) 1991 | Dangos dy hun yn berchen eiddo Dafydd. |
| (2, 3) 1992 | Gwisg ei frenhinol glog. |
| (2, 3) 1994 | Tor i'w drysorfa. |
| (2, 3) 1995 | Dos heno i mewn i dŷ ei ordderch wragedd. |
| (2, 3) 1997 | Yna, pan glywo'r dyrfa dy fod yn ffiaidd |
| (2, 3) 1998 | Yng ngolwg Dafydd, a'th her yn her derfynol, |
| (2, 3) 1999 | Ymrestrant oll o dan dy faner di. |
| (Hŵsai) Cyngor cyrhaeddbell. Sicr o gael y dorf. | |
| (Hŵsai) Cyngor cyrhaeddbell. Sicr o gael y dorf. | |
| (2, 3) 2001 | Un peth ymhellach. Dyro i minnau gatrawd |
| (2, 3) 2002 | O filwyr Hebron. Mi erlidiaf heno |
| (2, 3) 2003 | Hyd wersyll Dafydd... Ni ddisgwyliant hynny. |
| (2, 3) 2004 | Fe'u trawaf hwynt, yn gysglyd a lluddedig, |
| (2, 3) 2005 | Fe ffŷ ei osgordd wedi ei syfrdanu; |
| (2, 3) 2006 | Ac nid rhaid inni ladd neb ond y brenin. |
| (Absalom) {Yn delwi.} | |
| (Absalom) Chytunais i erioed i ladd fy nhad. | |
| (2, 3) 2009 | Gad hynny imi. Bellach nid oes ffordd arall |
| (2, 3) 2010 | I ennill heddwch, a'th goroni di |
| (2, 3) 2011 | Heb unrhyw wrthblaid. Fe oroesodd Dafydd |
| (2, 3) 2012 | Ei ddefnyddioldeb... Gwêl, mae'i haul ar fachlud |
| (2, 3) 2013 | Mewn pwll o waed. |
| (Hŵsai) O gylch y gwersyll gan gyfrwyster Joab. | |
| (2, 3) 2030 | Gad hynny imi. Fe dduwn ein hwynebau |
| (2, 3) 2031 | A disgyn ar bob gwyliwr yn ddi-sŵn. |
| (Hŵsai) Methwch ag un, a deffry hwnnw'r gwersyll; | |
| (Hŵsai) Ei Gedyrn ym mhorth ogof lle mae Dafydd. | |
| (2, 3) 2050 | Pa gyngor gwell a roddai arglwydd Hŵsai? |
| (Hŵsai) Os methiant fydd dy gyrch,—ar ôl y lladdfa | |
| (Hŵsai) Gormod o fenter! | |
| (2, 3) 2056 | Menter yw pob rhyfel. |
| (Hŵsai) Eto mae'r pwyllog yn mantoli ei siawns; | |
| (2, 3) 2066 | A ph'le bydd byddin Dafydd? |
| (Hŵsai) Wedi encilio | |
| (Absalom) Hŵsai a roes y cyngor gorau heddiw. | |
| (2, 3) 2075 | Mae'n gyngor ynfyd! Rhaid eu taro heno |
| (2, 3) 2076 | Yn sydyn yn eu blinder. Bydd yn rhy hwyr |
| (2, 3) 2077 | Erbyn yfory. Ni ddaw siawns fel hwn |
| (2, 3) 2078 | Byth eto i ladd y brenin. |
| (Absalom) Pam "ei ladd"? | |
| (Absalom) Pam "ei ladd"? | |
| (2, 3) 2080 | Am na chei heddwch fyth ac yntau'n fyw. |
| (2, 3) 2081 | Gŵr gwaedlyd yw; gŵr sy'n dwyn barn ar Israel, |
| (2, 3) 2082 | Newyn, a phlâu, a dwys ofidiau fyrdd; |
| (2, 3) 2083 | Gŵr sydd â'i ddwylo'n goch gan waed Ureias, |
| (2, 3) 2084 | Gad imi ei daro heno â chleddyf barn. |
| (Absalom) Yr un hen stori.—Oni ddwedais wrthyt | |
| (Absalom) Paham y deli i sôn o hyd am ladd? | |
| (2, 3) 2089 | Fy Mrenin Absalom, offeryn dial |
| (2, 3) 2090 | A fuost tithau unwaith yn Llaw Dduw, |
| (2, 3) 2091 | Pan blennaist gyllell hir yng nghalon Amnon |
| (2, 3) 2092 | Am dreisio dy hoff chwaer. Arhosaist awr |
| (2, 3) 2093 | Y dial mewn amynedd; ond, pan ddaeth, |
| (2, 3) 2094 | A glywaist ti orfoledd fel llif ffrydiol |
| (2, 3) 2095 | Gwaed poeth y treisiwr dros dy law a'th gyllell? |
| (2, 3) 2096 | Dyro i minnau'r un gorfoledd heno. |
| (Absalom) {Yn troi ato'n bendant.} | |
| (Absalom) 'Chei-di mo'i ladd! | |
| (2, 3) 2099 | Wyt ti'n ynfydu, lencyn? |
| (2, 3) 2100 | Rhaid imi ei ladd-o heno! |
| (Absalom) {Yn codi.} | |
| (2, 3) 2105 | O'r gorau! Mab i minnau oedd Ureias! |
| (Absalom) Beth? Mab i ti? | |
| (Absalom) Beth? Mab i ti? | |
| (2, 3) 2107 | Fy mab... Nid mab cyfreithlon: |
| (2, 3) 2108 | Llances o Hethiad oedd ei fam; ond Duw |
| (2, 3) 2109 | A ŵyr fy nghariad at fy machgen dewr. |
| (2, 3) 2110 | Yn ifanc daeth yn Gapten... Mewn sawl brwydyr |
| (2, 3) 2111 | Y chwarddodd am ben Angau â Llanciau Joab? |
| (2, 3) 2112 | Ac yna fe'i gadawsant; fe'i gadawsant |
| (2, 3) 2113 | Ar ganol arwain cyrch tros Frenin Israel; |
| (2, 3) 2114 | Ar amnaid eu Cadfridog fe'i gadawsant |
| (2, 3) 2115 | O fwriad, fel y cwympai o flaen y gelyn, |
| (2, 3) 2116 | A rifai ddeg am un; ac fel y caffai |
| (2, 3) 2117 | Y Brenin gysgu'n esmwyth gyda'i wraig. |
| (Absalom) Mae deunaw mlynedd er y trosedd hwn. | |
| (Absalom) Mae deunaw mlynedd er y trosedd hwn. | |
| (2, 3) 2119 | Beth yw blynyddoedd wrth ddialedd tad? |
| (2, 3) 2120 | Anghofiodd pawb;—anghofiodd Nathan Broffwyd! |
| (2, 3) 2121 | Ond nid anghofiais i. |
| (Hŵsai) 'Fentret-ti ffawd | |
| (Hŵsai) Achos dy Frenin er dial llid personol? | |
| (2, 3) 2124 | Mae mwy o berygl yn dy gynllun di,— |
| (2, 3) 2125 | Ymbwyllo! Oedi! Heno y mae taro |
| (2, 3) 2126 | Ag ergyd barn y nef yn nerthu'n cyrch. |
| (2, 3) 2127 | Edrychwch! Arwydd sicir!—Machlud haul |
| (2, 3) 2128 | Fel pwll o waed wrth borth y llofrudd Dafydd! |
| (2, 3) 2130 | Cleddyf yr Arglwydd ac Ahitoffel! |
| (Absalom) {Yn bloeddio'n ôl i'w wyneb.} | |
| (Absalom) Yr wyt ti'n wallgof! | |
| (2, 3) 2133 | (Yn bloeddio'n fygythiol a'r cleddyf yn dal yn ddyrchafedig.} |
| (2, 3) 2134 | Gwallgof wyt dy hun! |
| (2, 3) 2135 | |Rhaid| iti roi i mewn i'm cyngor heno. |
| (Absalom) {Yn ail-eistedd yn urddasol ar yr orseddfainc ac yn llefaru mewn llais tawel, oer, haearnaidd.} | |
| (2, 3) 2140 | Maddau fy nhymer wyllt, O Frenin grasol, |
| (2, 3) 2141 | Anghofia ngeiriau byrbwyll. |
| (Absalom) Cofiaf y lleill, | |
| (2, 3) 2147 | Mae'r chwarae trosodd, |
| (2, 3) 2148 | A minnau'n golwr... Esgusodwch fi... |
| (2, 3) 2149 | Mae'n oerach yn yr ardd... |