| (Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon | |
| (Abisâg) Pa Wyl yw honno? | |
| (2, 1) 1318 | Henffych well i'r Brenin! |
| (2, 1) 1319 | Gras a gwrogaeth oddi wrth fy nhad Sadoc. |
| (Dafydd) Ein cyfarch i fab Sadoc yr Offeiriad! | |
| (Ahitoffel) Paham y rhedaist? | |
| (2, 1) 1322 | Gweld Joab ar y ffordd |
| (2, 1) 1323 | A chlywed braint ein tŷ gan y Cadfridog. |
| (2, 1) 1324 | A phan aeth yntau rhagddo i dŷ fy nhad |
| (2, 1) 1325 | I lonni ei galon hen â'r fath newyddion, |
| (2, 1) 1326 | Fod Brenin Israel heddiw am anrhydeddu |
| (2, 1) 1327 | Ein cronglwyd ac ymweliad, rhedais yma |
| (2, 1) 1328 | O wir lawenydd i'th hebrwng ar ran Sadoc. |
| (2, 1) 1329 | Croeso, O Frenin mawr, i dŷ fy nhad. |
| (Dafydd) Tywalltwyd gras ar dy wefusau'n ifanc. | |
| (Abisâg) {Gan gynnig tywallt gwin o gostrel i gwpan.} | |
| (2, 1) 1334 | Dwfr, deg arglwyddes;—yr wyf tan ddisgyblaeth. |
| (Ahitoffel) Nid cwrtais yfed dwfr yn Llys y Brenin. | |
| (Absalom) Dy enw yw Ahimâs? | |
| (2, 1) 1343 | Ie, Dywysog. |
| (Absalom) Ac oni welais-i di gyda Llanciau Joab, | |
| (Absalom) A thaflu gwaywffon ac ymryson ras? | |
| (2, 1) 1347 | Do, f'arglwydd; un o Lanciau Joab wyf. |
| (Absalom) Ac oni welais-i di'n ymryson ras | |
| (Absalom) A Chŵsi ddu, gwas Joab? | |
| (2, 1) 1350 | Diau, f'arglwydd. |
| (2, 1) 1351 | Cŵsi yw'r rhedwr gorau yng Nghaersalem. |
| (Absalom) Threchaist-ti mono? | |
| (Absalom) Threchaist-ti mono? | |
| (2, 1) 1353 | Naddo, syr, ddim eto. |
| (Absalom) "Ddim eto!" Beth yw ystyr hynny? | |
| (2, 1) 1356 | 'Rwyf |
| (2, 1) 1357 | Ar gwrs ymarfer, ac ni phrofaf win |
| (2, 1) 1358 | Nes trechu'r campwr Cŵsi, caethwas Joab. |
| (Absalom) Purion uchelgais, ond 'threchi-di mono byth. | |
| (Abisâg) A minnau'r eurdlws hwn sydd ar fy mron. | |
| (2, 1) 1375 | Yn ffydd fy mrenin fyth ni allaf fethu. |
| (2, 1) 1380 | A'th ymddiriedaeth di, arglwyddes fwyn. |
| (Dafydd) O'r gorau, tywys ni i dŷ dy dad, | |
| (Abisâg) Lle trig fy Mrenin, yno y trigaf i. | |
| (2, 2) 1727 | Cyfarch ffyddlonaf oddi wrth fy nhad Sadoc, |
| (2, 2) 1728 | Sydd newydd glywed. Archodd fi ar frys |
| (2, 2) 1729 | I redeg yma o'r Cysegr â'r neges hon: |
| (2, 2) 1730 | "Os myn y Brenin weled Arch yr Arglwydd |
| (2, 2) 1731 | Yn arwain allan heddiw ar flaen y llu |
| (2, 2) 1732 | I'r anial gyda'th osgordd, dweded y gair..." |
| (2, 2) 1733 | Mae chwech ohonom a'i cyfrifai'n fraint |
| (2, 2) 1734 | Cael rhoi ein hysgwydd tani, a chario'i bendith |
| (2, 2) 1735 | A bendith Sadoc gyda thi lle'r elych. |
| (Dafydd) Fy niolch byth i Sadoc ac i'w fab, | |
| (Dafydd) Ac yng Nghaersalem mae hi i aros byth. | |
| (2, 2) 1740 | Mi a'th ganlynaf, pa le bynnag yr elych. |
| (Dafydd) Mae gennyf amgen gwaith it, Ahimâs, | |
| (Dafydd) Mwy enbyd hefyd. | |
| (2, 2) 1743 | Dyro imi'r fraint. |
| (Dafydd) Aros yn Seion fel rhedegwr Hŵsai. | |
| (2, 2) 1750 | Fy Mrenin grasol! |
| (Abisâg) {Gan estyn ei deheulaw.} | |
| (2, 2) 1803 | Onid oes fantell gennyt erbyn heno? |
| (Abisâg) {Tan wenu arno.} | |
| (2, 2) 1807 | Cymer hon, |
| (2, 2) 1808 | Mae min ar nos yr anial. |
| (Abisâg) {Gŵyra hithau ei phen yn ôl ato'n serchus gan sibrwd yn fwyn iawn.} | |
| (3, 1) 2400 | Diolch, Frenin da. |
| (Joab) {Yn saliwtio.} | |
| (3, 1) 2413 | Abisâg! |
| (Dafydd) {Yn y distawrwydd.} | |
| (Beneia) Buddugoliaeth! | |
| (3, 2) 2596 | Heddwch, fy Arglwydd Frenin! Bendigedig |
| (3, 2) 2597 | A fyddo Duw, a ddaeth i'n cymorth heddiw |
| (3, 2) 2598 | Yn erbyn dy elynion. Nid i ni |
| (3, 2) 2599 | Eithr i'w enw Ef y byddo clod |
| (3, 2) 2600 | Y fuddugoliaeth. Acw, yn nrysle'r coed, |
| (3, 2) 2601 | Fe'u lladdwyd wrth y miloedd, ac mae'r gweddill |
| (3, 2) 2602 | Yn rhedeg am eu heinioes rhag meirch Itai |
| (3, 2) 2604 | Duw a fendithiodd faner Dafydd heddiw. |
| (3, 2) 2605 | Rhagor... |
| (Dafydd) {Yn cydio'n ei ddwy ysgwydd.} | |
| (Dafydd) Ai diogel Absalom fy mab? | |
| (3, 2) 2609 | Ar awr y fuddugoliaeth, 'roedd cythrwfl |
| (3, 2) 2610 | Ymhlith ein milwyr—bloeddio a chroes-floeddio. |
| (Dafydd) A ddaliwyd y Tywysog yn garcharor? | |
| (Dafydd) A ddaliwyd y Tywysog yn garcharor? | |
| (3, 2) 2612 | Ni allwn aros dim i weld beth oedd. |
| (3, 2) 2613 | Fe waeddodd y Cadfridog arnaf: "Rhed; |
| (3, 2) 2614 | Brysia â'r fuddugoliaeth at y Brenin!" |
| (Dafydd) Ein diolch, ffrind... Ac fel y cyntaf un | |
| (Dafydd) Gofyn a thi a'i cei, beth bynnag fo. | |
| (3, 2) 2623 | Fy Mrenin grasol a haelionus, rho |
| (3, 2) 2624 | Dy delynores fwyn yn briod im. |