| (Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon | |
| (1, 0) 957 | Fy Nhad a'm Brenin! |
| (Dafydd) {Yn ei godi a'i gofleidio, a'i gofleidio,—a'i lef orfoleddus yn dyrchafu drwy'r tŷ.} | |
| (2, 1) 1028 | Yn ara' deg, frawd bach, yn ara' deg! |
| (2, 1) 1029 | Y mae ailddechrau rywbryd ar bob chwarae, |
| (2, 1) 1030 | —Ar chwarae gwyddbwyll ac ar chwarae teyrnas. |
| (2, 1) 1031 | Mynwes yr ynfyd sy'n coleddu siom |
| (2, 1) 1032 | Y collwr sâl. |
| (2, 1) 1034 | Mae'r werin dost ar lawr |
| (2, 1) 1035 | Ar ôl dy chwyldro sydyn; onid braint |
| (2, 1) 1036 | Tywysog yw eu codi? |
| (Solomon) {Yn edifeiriol ddigon, wrth eu casglu.} | |
| (2, 1) 1044 | Llawn digon imi ddweud |
| (2, 1) 1045 | Wrth fy mrawd bach fel hyn. |
| (2, 1) 1047 | Gwêl, Solomon, |
| (2, 1) 1049 | Fy ngherbyd ar y ífordd, wrth borth y brenin; |
| (2, 1) 1050 | Y grymus Metheg-Ama ydyw gyrrwr |
| (2, 1) 1051 | Y ddau farch du, porthiannus. Esgyn dithau |
| (2, 1) 1052 | A Meffiboseth iddo, ac fe'ch dwg |
| (2, 1) 1053 | Trwy borth y ddinas ac am dro i'r wlad. |
| (Solomon) {Yn awchus.} Ac yno a gaf i gymryd yr awenau? | |
| (Solomon) {Yn awchus.} Ac yno a gaf i gymryd yr awenau? | |
| (2, 1) 1055 | Ti gei,—tan wers a gofal Metheg-Ama; |
| (2, 1) 1057 | A'r dydd y dwedo wrthyf fod dy freichiau |
| (2, 1) 1058 | Yn ddigon cryf i drin dau geffyl nwyfus, |
| (2, 1) 1059 | Heb droi fy ngherbyd, mi rof anrheg iti— |
| (2, 1) 1060 | Cerbyd i ti dy hun â dau farch gwyn. |
| (Solomon) {Yn ei anwesu.} | |
| (Solomon) Brysia ar unwaith! Ple mae'r baglau? Brysia! | |
| (2, 1) 1064 | Gan bwyll!—O wers i wers mae dysgu gyrru |
| (2, 1) 1065 | Y cerbyd hwn,—fel cerbyd y wladwriaeth. |
| (2, 1) 1067 | Gall diffyg pwyll rhwng brodyr droi y ddau. |
| (Dafydd) Dydd da, fy meibion. | |
| (Dafydd) Ryw ddydd ar beraroglus rin brawdgarwch. | |
| (2, 1) 1077 | Dydd da i'n harglwydd a'n brenhinol dad. |
| (Hŵsai) Newyn yn Gilgal, a newyddion drwg | |
| (Hŵsai) Yn ddigon i orbwyso pob gorthrymder. | |
| (2, 1) 1081 | Newyddion drwg o Hebron, lle y'm ganed? |
| (Ahitoffel) Ie, o Hebron. 'Roedd ein harglwydd frenin | |
| (Ahitoffel) Ar osod ein prifddinas yng Nghaersalem. | |
| (2, 1) 1089 | Nid rhyfedd chwaith! Fy Hebron hardd a hen, |
| (2, 1) 1090 | A'i chastell tyrog yng Nghadernid Jwda, |
| (2, 1) 1091 | A'i thraddodiadau 'n ôl at Abraham |
| (2, 1) 1092 | A Sara, sydd â'u hesgyrn yno'n huno'n |
| (2, 1) 1093 | Ogof Macpela; Hebron sydd â'r heniaith |
| (2, 1) 1094 | Yn groyw, gadarn, ar dafodau'i phlant, |
| (2, 1) 1095 | Nid megis bratiaith y Jebiwsiaid hyn |
| (2, 1) 1096 | O'n cwmpas yng Nghaersalem. |
| (Dafydd) Ond mewn cyrch | |
| (Dafydd) Ag adeiladau teilwng o Brifddinas. | |
| (2, 1) 1102 | Nid adeiladau sydd yn gwneud prifddinas; |
| (2, 1) 1103 | Nid urddas gair y brenin na'i gynghorwyr, |
| (2, 1) 1104 | Ond urddas llên ac iaith a hir wasanaeth. |
| (Ahitoffel) Mae Hebron wedi gwrthod treth y Brenin. | |
| (2, 1) 1109 | Frodyr da, dywedwch |
| (2, 1) 1110 | Beth sydd yn uno cenedl tan brifddinas? |
| (Solomon) Beth sydd yn uno cenedl? Cyfraith union | |
| (Solomon) Hyn sydd yn uno cenedl. | |
| (2, 1) 1114 | Meffiboseth? |
| (Meffiboseth) Tegwch bro, a serch ei llwythau'n clymu | |
| (Meffiboseth) Fe fyddai'n wiw gan ddyn gael marw drosti. | |
| (2, 1) 1124 | Beth sydd yn uno cenedl, F'arglwydd Joab? |
| (Joab) 'Does dim sy'n haws i'w ateb,—Byddin gref. | |
| (Dafydd) Beth sydd yn uno cenedl, Absalom? | |
| (2, 1) 1141 | Crefydd sy'n uno cenedl, f'arglwydd frenin. |
| (2, 1) 1142 | Un Duw, un allor, un teyrngarwch dwys, |
| (2, 1) 1143 | Yn asio llwyth wrth lwyth yn fflam un ffydd. |
| (2, 1) 1144 | Am hynny, f'arglwydd frenin, dyma 'nghyngor; |
| (2, 1) 1145 | Gwneler Caersalem yn brifddinas crefydd |
| (2, 1) 1146 | Israel a Jwda gan Orseddfainc Dafydd... |
| (2, 1) 1147 | Erys yr Arch o hyd mewn pabell foel, |
| (2, 1) 1148 | A ninnau'n byw mewn plasau o goed cedrwydd. |
| (2, 1) 1149 | Cyfoder yma Demel genedlaethol, |
| (2, 1) 1150 | Un enw gwell y sydd na "Dinas Dafydd," |
| (2, 1) 1151 | A'r enw hwnnw—"Dinas y Brenin Mawr." |
| (Dafydd) "Dinas y Brenin Mawr!" Fy mab ardderchog! | |
| (Ahitoffel) Â thref wrthnysig? | |
| (2, 1) 1176 | Fy mrenhinol dad, |
| (2, 1) 1177 | Nes codi'r deml unol yng Nghaersalem |
| (2, 1) 1178 | Fe lŷn pob tref wrth ei huchelfa'i hun. |
| (2, 1) 1179 | A chan mai Hebron yw 'nhref enedigol, |
| (2, 1) 1180 | Atolwg, gollwng fi yfory, ac af |
| (2, 1) 1181 | At allor Hebron. Talaf yr adduned |
| (2, 1) 1182 | Fan honno i Dduw am gymod mwyn â'm tad; |
| (2, 1) 1183 | Ac felly yr enillwn yr Hebroniaid. |
| (Ahitoffel) Cyngor rhagorol—teilwng o Fab Dafydd. | |
| (Joab) Pum cant! Yr wyt ti'n gofyn gosgordd brenin! | |
| (2, 1) 1220 | Rho imi ddeucant, Joab. |
| (Joab) Gwnaf, Dywysog, | |
| (2, 1) 1271 | Cyn dod o'n Brenin grasol i'w neuadd heddiw |
| (2, 1) 1272 | Addewais i'm cyd-dywysogion hyn |
| (2, 1) 1273 | Fenthyg fy ngherbyd i roi tro i'r wlad, |
| (2, 1) 1274 | A ganiatei-di hynny? |
| (Dafydd) Pwy yw'r gyrrwr? | |
| (Dafydd) Pwy yw'r gyrrwr? | |
| (2, 1) 1276 | Y grymus Metheg-Ama. |
| (Dafydd) Cerbydwr da! | |
| (2, 1) 1282 | Hwde!... Dyro fy chwip i Metheg-Ama. |
| (Abisâg) A dyma ddwfr. | |
| (2, 1) 1342 | Dy enw yw Ahimâs? |
| (Ahimâs) Ie, Dywysog. | |
| (Ahimâs) Ie, Dywysog. | |
| (2, 1) 1344 | Ac oni welais-i di gyda Llanciau Joab, |
| (2, 1) 1345 | Wrthi'n ymarfer ddoe ar ymgodymu |
| (2, 1) 1346 | A thaflu gwaywffon ac ymryson ras? |
| (Ahimâs) Do, f'arglwydd; un o Lanciau Joab wyf. | |
| (Ahimâs) Do, f'arglwydd; un o Lanciau Joab wyf. | |
| (2, 1) 1348 | Ac oni welais-i di'n ymryson ras |
| (2, 1) 1349 | A Chŵsi ddu, gwas Joab? |
| (Ahimâs) Diau, f'arglwydd. | |
| (Ahimâs) Cŵsi yw'r rhedwr gorau yng Nghaersalem. | |
| (2, 1) 1352 | Threchaist-ti mono? |
| (Ahimâs) Naddo, syr, ddim eto. | |
| (Ahimâs) Naddo, syr, ddim eto. | |
| (2, 1) 1354 | "Ddim eto!" Beth yw ystyr hynny? |
| (Ahimâs) {Tan wenu.} | |
| (Ahimâs) Nes trechu'r campwr Cŵsi, caethwas Joab. | |
| (2, 1) 1359 | Purion uchelgais, ond 'threchi-di mono byth. |
| (2, 1) 1360 | Mae haul Ethiopia'n fflam yn ei gyhyrau. |
| (Dafydd) A dygnwch Iddew ym mwriad Ahimâs! | |
| (2, 1) 1366 | Am gant o siclau arian?... Bodlon fi! |
| (2, 1) 1367 | O fewn tri mis? Rhagorol! Ond, fy nhad, |
| (2, 1) 1368 | Mae'r peth fel dwyn dy arian da. |
| (Dafydd) Cawn weld. | |
| (Dafydd) At bobol Hebron... Hyd yfory, ynteu! | |
| (2, 1) 1391 | Duw gadwo'r Brenin. |
| (Ahitoffel) Ni ellir lladd y brenin. | |
| (2, 1) 1395 | Beth a ddywedaist-ti? |
| (Ahitoffel) Wrth chwarae gwyddbwyll | |
| (Ahitoffel) 'Waeth pa mor anobeithiol fyddo'r safle. | |
| (2, 1) 1399 | Ond gellir cau amdano a'i ddirymu. |
| (Ahitoffel) Siŵr iawn,—a dyna derfyn ar y chwarae... | |
| (Ahitoffel) Siŵr iawn,—a dyna derfyn ar y chwarae... | |
| (2, 1) 1401 | Be' ddwedwn-ni wrth bobol Hebron 'fory? |
| (Ahitoffel) Ofer fydd dwedyd dim. | |
| (Ahitoffel) Ofer fydd dwedyd dim. | |
| (2, 1) 1403 | Ofer, fy arglwydd? |
| (Ahitoffel) Ofer, tra byddo Dafydd ar yr orsedd. | |
| (Ahitoffel) Fe'u digiodd hwynt, ac ni faddeuant byth. | |
| (2, 1) 1406 | Trwy symud ei brifddinas i Gaersalem? |
| (Ahitoffel) Fe ddoent dros hynny... Yr hyn ni faddau gwlad | |
| (Ahitoffel) I frenin yw priodi gyda'i butain. | |
| (2, 1) 1409 | Hen stori ddeunaw mlynedd! Dwyt ti 'rioed |
| (2, 1) 1410 | Yn dal yn ddigllon am yr anffawd hwnnw? |
| (Ahitoffel) Y wlad sy'n dal ei dig. Nid anghofiasant | |
| (Ahitoffel) A gorwedd gyda hi, a'i gŵr yn y gad. | |
| (2, 1) 1416 | Gad i'r hen stori. Oni thalodd Dafydd |
| (2, 1) 1417 | Yn ddrud mewn penyd ac mewn edifeirwch? |
| (2, 1) 1418 | Tosturiodd Duw; maddeuodd Nathan Broffwyd! |
| (2, 1) 1419 | Pa synnwyr i |ti| ddal yn ddig o hyd? |
| (Ahitoffel) Fe'i priododd-hi,—a dyna gŵyn ei wlad. | |
| (Ahitoffel) I frenin byth ydyw priodi ei butain. | |
| (2, 1) 1426 | Beth sydd a wnelo hynny â threthi Hebron? |
| (Ahitoffel) Mwy nag a dybi-di... Pa bryd y gwelaist | |
| (Ahitoffel) Bathseba olaf? | |
| (2, 1) 1429 | Welais-i mo'r Frenhines |
| (2, 1) 1430 | Ers dyddiau bellach. Prin yn wir y daw |
| (2, 1) 1431 | Ar draws fy llwybr i, os gall hi beidio. |
| (2, 1) 1433 | Mae Solomon a minnau'n eithaf ffrindiau. |
| (Ahitoffel) Wyddost-ti ddim p'le mae-hi? | |
| (Ahitoffel) Wyddost-ti ddim p'le mae-hi? | |
| (2, 1) 1435 | Na wn i. |
| (2, 1) 1436 | Clywais ei bod ar daith i weld ei thylwyth. |
| (Ahitoffel) O! mae hi'n gyfrwys; ond mae sbïwyr da'n | |
| (Ahitoffel) Fel ei olynydd, a'i arwisgo felly. | |
| (2, 1) 1444 | 'Feiddiai-hi byth. |
| (Ahitoffel) Fe feiddiai unrhyw beth | |
| (Ahitoffel) Er mwyn ei mab, o'r dydd y daethost adref. | |
| (2, 1) 1447 | Beth yw dy gyngor? |
| (Ahitoffel) F'arglwydd Dywysog, | |
| (Ahitoffel) Ac Absalom fydd yn teyrnasu yn Hebron. | |
| (2, 1) 1453 | F'arglwydd Ahitoffel, bradwriaeth yw! |
| (Ahitoffel) Dywysog, 'rwy'n rhy hen i air fy nychryn, | |
| (Ahitoffel) {Esgyn i fyny at yr Orsedd.} | |
| (2, 1) 1465 | A phe cytunwn, byddai 'nhad yn ddiogel? |
| (Ahitoffel) Ni leddir brenin gan chwaraewyr gwyddbwyll. | |
| (Ahitoffel) I ddal ar gyfle? | |
| (2, 1) 1478 | Na chaiff, yn enw Duw! |
| (2, 1) 1479 | Beth sydd yn rhaid ei wneud? |
| (Ahitoffel) {Wedi dychwelyd y goron i'w lle.} | |
| (Ahitoffel) Fe'th gyfyd dy gyd-drefwyr di'n gyd-frenin. | |
| (2, 1) 1484 | Beth am Gaersalem? |
| (Ahitoffel) Gyda sydyn gyrch, | |
| (2, 1) 1492 | Abhitoffel, beth wyt-ti? Ai proffwyd doeth |
| (2, 1) 1493 | Yn gweld trwy'r llen, a'th air fel gair y nef? |
| (2, 1) 1494 | Ai adlais i uchelgais llosg fy mron? |
| (2, 1) 1495 | Ai cennad Satan, y gwrthryfelwr mawr |
| (2, 1) 1496 | A gododd blaid yn erbyn Gorsedd Nef |
| (2, 1) 1497 | A chael ei hyrddio i'r pwll? |
| (Ahitoffel) {Yn llefain.} | |
| (2, 3) 1842 | Dim enaid byw! Mae'r adar wedi ffoi |
| (2, 3) 1843 | O gyrraedd ein cleddyfau. |
| (Ahitoffel) {Mewn angerdd.} | |
| (2, 3) 1859 | Atal dy law!... Llais Meffiboseth yw. |
| (2, 3) 1861 | Cyfod mewn heddwch. Nid oes gennyf gweryl |
| (2, 3) 1862 | Â thi fy mrawd-dywysog. |
| (Meffiboseth) O! paham | |
| (Meffiboseth) {Cyfyd Ahitoffel ei gleddyf bygythiol eto.} | |
| (2, 3) 1869 | Gad iddo, arglwydd. |
| (2, 3) 1871 | Gwrando Meffiboseth, |
| (2, 3) 1872 | Yr wyf mor hoff o'm tad ag yr ydwyt tithau. |
| (2, 3) 1873 | Ond llawn o dwyll a dichell yw'r Frenhines. |
| (Meffiboseth) Hi a fu'n pledio drosof. | |
| (Meffiboseth) Ynghŷd yn Llys y Brenin. | |
| (2, 3) 1879 | Yr wyt ti'n |
| (2, 3) 1880 | Rhy ifanc i wleidyddiaeth; ac ni wyddost |
| (2, 3) 1881 | Mor enbyd cyflwr Israel. |
| (Meffiboseth) Mi wn hyn, | |
| (Meffiboseth) Mai Dafydd yw fy mrenin i, a'm tad. | |
| (2, 3) 1884 | Ac ni niweidiwn innau ef er dim; |
| (2, 3) 1885 | Fe ddown i ddealltwriaeth.—Amdanat ti, |
| (2, 3) 1886 | Nac ofna ddim. Ni ddaw i tithau niwed. |
| (2, 3) 1887 | Cei aros yma'n Ddistain Llys y Brenin. |
| (2, 3) 1888 | A wyt-ti'n fodlon? |
| (Meffiboseth) Nes dychwelo ef. | |
| (Meffiboseth) Nes dychwelo ef. | |
| (2, 3) 1890 | O'r gorau... Ple mae'r goron... Wyddost ti? |
| (Meffiboseth) {Yn troi at yr orsedd i'w cheisio.} | |
| (Meffiboseth) Ac fe ddiflannodd. | |
| (2, 3) 1899 | Wyddost ti ddim mwy? |
| (Meffiboseth) Dim mwy. Mi gerfiais gist o dderw i'w chadw. | |
| (Meffiboseth) Diflannodd hi a'r gist; ond sut ni wn. | |
| (2, 3) 1902 | Na phoena ragor. Fe ddown ni o hyd i'r goron. |
| (2, 3) 1903 | Ond edrych—gwna gymwynas â mi, 'wnei-di? |
| (Meffiboseth) Os yw'n fy ngallu, heb wneud drwg i'r Brenin. | |
| (Meffiboseth) Os yw'n fy ngallu, heb wneud drwg i'r Brenin. | |
| (2, 3) 1905 | Llychlyd y ffordd wrth deithio yma o Hebron, |
| (2, 3) 1906 | A'r haul yn danbaid arnom. |
| (Meffiboseth) {Yn codi costrel a ffiol.} | |
| (Meffiboseth) {Fe yf o'r ffiol ei hun.} | |
| (2, 3) 1914 | Na, nid wy'n ofni gwenwyn |
| (2, 3) 1915 | Gan Meffiboseth, ond ni ddeisyfaf win. |
| (2, 3) 1916 | Mae 'ngenau'n gras,—syched am ffrwyth sydd arnaf |
| (2, 3) 1917 | O'r ardd frenhinol wedi'n hymdaith boeth. |
| (2, 3) 1918 | Grawnsypiau pêr ac aur-afalau'r brenin, |
| (2, 3) 1919 | Y rhain ymrithiai o'm blaen o Hebron yma. |
| (2, 3) 1920 | A ei-di i gasglu rhai? |
| (Meffiboseth) {Gan gymryd basged fechan a myned ŵ'r ardd.} | |
| (Ahitoffel) Sut yr wyt ti'n ei oddef? | |
| (2, 3) 1925 | Does dim twyll |
| (2, 3) 1926 | Yn agos iddo. Y mae'n werth ei ennill |
| (2, 3) 1927 | O blaid fy hawl,—yr olaf o Dŷ Saul. |
| (2, 3) 1928 | Eistedd, Ahitoffel, mae mwy i'w drafod. |
| (2, 3) 1929 | Na phrepian Meffiboseth. |
| (Ahitoffel) Eistedd |di|, | |
| (2, 3) 1933 | O! nid fel hyn bûm i'n dyfalu'r foment |
| (2, 3) 1934 | Cawn eistedd yn fy nhro ar Orsedd Dafydd. |
| (2, 3) 1935 | Yr oedd y Llys yn llawn; ac â llef utgyrn |
| (2, 3) 1936 | Y rhoddai 'nhad y goron ar fy mhen, |
| (2, 3) 1937 | Wedi i Sadoc fy eneinio i |
| (2, 3) 1938 | I gyd-deyrnasu â'm tad; a phawb yn bloeddio |
| (2, 3) 1939 | "Duw gadwo Absalom!" a "Duw gadwo Dafydd!" |
| (Ahitoffel) Petai ein byddin heddiw wedi cyrraedd | |
| (Ahitoffel) Cawsant ddwy awr o rybudd. | |
| (2, 3) 1945 | Nid heb waed |
| (2, 3) 1946 | Y dof yn frenin bellach. |
| (Ahitoffel) 'Rwyt-ti'n frenin. | |
| (2, 3) 1954 | Tyrfa Caersalem! Oriog fel y gwynt |
| (2, 3) 1955 | Yw honno byth. Heddiw yn frwd "Hosanna," |
| (2, 3) 1956 | Yfory'n bloeddio "Ymaith." |
| (Ahitoffel) Gwrando 'nghyngor, | |
| (Absalom ac Ahitoffel) Hŵsai! | |
| (2, 3) 1964 | Pa fodd nad aethost tithau heddiw |
| (2, 3) 1965 | Gyda dy gyfaill Dafydd?... Ai dyma'r tâl |
| (2, 3) 1966 | Am ei holl garedigrwydd iti? |
| (Hŵsai) Na, | |
| (Ahitoffel) Trwy ei gynghori i'th alw adre'n ôl. | |
| (2, 3) 1975 | Do, nid anghofiais hynny, Ahitoffel. |
| (2, 3) 1976 | Mwyn yw dy eiriau, Hŵsai. A daethost yma |
| (2, 3) 1977 | Yn gyntaf o'r dinaswyr i'm croesawu, |
| (2, 3) 1978 | 'Rwy'n gwerthfawrogi'r weithred. |
| (Hŵsai) Frenin Seion, | |
| (Hŵsai) Gad imi fod i'r Brenin Absalom. | |
| (2, 3) 1986 | Croeso i'n plith, Gynghorwr. Eistedd yma. |
| (2, 3) 1987 | Rho imi fantais dy brofiadol farn. |
| (2, 3) 1989 | F'arglwydd Ahitoffel, trafod yr oeddit |
| (2, 3) 1990 | Ffordd i droi oriog ffydd y dyrfa'n ffaith. |
| (Ahitoffel) Dangos dy hun yn berchen eiddo Dafydd. | |
| (2, 3) 2008 | Chytunais i erioed i ladd fy nhad. |
| (Ahitoffel) Gad hynny imi. Bellach nid oes ffordd arall | |
| (2, 3) 2016 | Na! Na!... Fy arglwydd Hŵsai, |
| (2, 3) 2017 | Beth yw dy gyngor di? |
| (Hŵsai) Nid da yw cyngor | |
| (Hŵsai) Cânt winllan ar y ffin, i'w thrin a'i throi. | |
| (2, 3) 2074 | Hŵsai a roes y cyngor gorau heddiw. |
| (Ahitoffel) Mae'n gyngor ynfyd! Rhaid eu taro heno | |
| (Ahitoffel) Byth eto i ladd y brenin. | |
| (2, 3) 2079 | Pam "ei ladd"? |
| (Ahitoffel) Am na chei heddwch fyth ac yntau'n fyw. | |
| (Ahitoffel) Gad imi ei daro heno â chleddyf barn. | |
| (2, 3) 2085 | Yr un hen stori.—Oni ddwedais wrthyt |
| (2, 3) 2086 | Dalu ohono'n ddrud mewn edifeirwch? |
| (2, 3) 2087 | Tosturiodd Duw, a hyd yn oed Nathan Broffwyd. |
| (2, 3) 2088 | Paham y deli i sôn o hyd am ladd? |
| (Ahitoffel) Fy Mrenin Absalom, offeryn dial | |
| (2, 3) 2098 | 'Chei-di mo'i ladd! |
| (Ahitoffel) Wyt ti'n ynfydu, lencyn? | |
| (2, 3) 2102 | Dyna ddigon |
| (2, 3) 2103 | A chofia 'mod i'n fab i Ddafydd Frenin. |
| (Ahitoffel) {Yn derfysglyd.} | |
| (Ahitoffel) O'r gorau! Mab i minnau oedd Ureias! | |
| (2, 3) 2106 | Beth? Mab i ti? |
| (Ahitoffel) Fy mab... Nid mab cyfreithlon: | |
| (Ahitoffel) Y Brenin gysgu'n esmwyth gyda'i wraig. | |
| (2, 3) 2118 | Mae deunaw mlynedd er y trosedd hwn. |
| (Ahitoffel) Beth yw blynyddoedd wrth ddialedd tad? | |
| (2, 3) 2132 | Yr wyt ti'n wallgof! |
| (Ahitoffel) (Yn bloeddio'n fygythiol a'r cleddyf yn dal yn ddyrchafedig.} | |
| (2, 3) 2137 | 'Wyt-ti'n fy mygwth? Wyt-ti'n codi'r cledd |
| (2, 3) 2138 | Yn f'erbyn innau, fel yn erbyn Dafydd? |
| (Ahitoffel) {Yn cywilyddio a disgyn ar ei lin, gan newid ei dôn yn llwyr.} | |
| (Ahitoffel) Anghofia ngeiriau byrbwyll. | |
| (2, 3) 2142 | Cofiaf y lleill, |
| (2, 3) 2143 | "Ni leddir brenin gan chwaraewyr gwyddbwyll, |
| (2, 3) 2144 | Digon fydd cau o'i gwmpas i'w ddirymu..." |
| (2, 3) 2145 | Dilynaf gyngor Hŵsai. |
| (Ahitoffel) {Yn codi'n drist a distaw.} | |
| (2, 3) 2154 | Ffrind, tywallt win. |
| (Hŵsai) {Yf eto.} | |
| (2, 3) 2161 | Llwydd i tithau! |
| (2, 3) 2163 | A diolch am aeddfedrwydd barn a phwyll |
| (2, 3) 2164 | Yn lle gwylltineb gwallgo. |
| (2, 3) 2166 | Beth oedd hyn'na? |
| (Hŵsai) Fe fydd yn llwyr gytuno â ni. | |
| (2, 3) 2173 | 'Wyddwn i ddim |
| (2, 3) 2174 | Hyd heddiw fod Ureias yn fab iddo. |
| (Hŵsai) Mi wyddwn i. Ond nid yw gwleidydd doeth | |
| (Hŵsai) Am les y wlad, yn lle defnyddio'i ben. | |
| (2, 3) 2178 | Megis y gwnaethost ti, trwy ddyfod ataf |
| (2, 3) 2179 | A'th gyngor, er dy gariad tuag at Dafydd |
| (2, 3) 2180 | Fy nhad. |
| (Hŵsai) 'Rwy'n gyfaill iddo o hyd. Ond rhaid | |
| (Hŵsai) Byth ni niweidiwn dy frenhinol dad. | |
| (2, 3) 2185 | Na minnau byth. Ac O! mi allwn wylo |
| (2, 3) 2186 | Wrth gofio'i groeso... Nid i'w erbyn ef |
| (2, 3) 2187 | Y codais i wrthryfel, ond Bathseba. |
| (2, 3) 2188 | Hi sy'n rheoli; a pha wir dywysog |
| (2, 3) 2189 | A adai i hon ladrata'i etifeddiaeth |
| (2, 3) 2190 | I'w phlentyn siawns? |
| (Hŵsai) Tybed, a fyddai modd | |
| (Hŵsai) Yr orsedd hon i ti. | |
| (2, 3) 2196 | Byth ni chytunai |
| (2, 3) 2197 | Tan orfod rhyfel. Ni adai balchder iddo. |
| (Hŵsai) Dwys | |
| (Hŵsai) Cynnig amodau i Dafydd? | |
| (2, 3) 2204 | Hollol ofer! |
| (2, 3) 2205 | Dychwelai hwy â sen. Ni chyfamodai |
| (2, 3) 2206 | Joab nac yntau â rhyw haid o fradwyr. |
| (2, 3) 2207 | Minnau, ni siomwn wŷr a fentrodd bopeth |
| (2, 3) 2208 | Er mwyn unioni cam â min y cledd. |
| (2, 3) 2209 | Bellach, beth bynnag fo, rhaid cario'n hymgyrch |
| (2, 3) 2210 | Ymlaen i fuddugoliaeth neu i fedd. |
| (Hŵsai) {Yn myned ato i'w gysuro ac eistedd gerllaw iddo ar y grisiau.} | |
| (Hŵsai) Be' sydd, fy machgen annwyl-i, be' sydd? | |
| (2, 3) 2215 | Ai un o'm milwyr i...? |
| (Meffiboseth) Acw...yn yr ardd... | |
| (Hŵsai) Wedi ymgrogi wrth raff y Gloch Alarwm. | |
| (2, 3) 2226 | "Mae'r chwarae trosodd," meddai, "a minnau'n gollwr." |
| (2, 3) 2229 | Bellach, beth bynnag fo, rhaid cario'n hymgyrch |
| (2, 3) 2230 | Ymlaen, i fuddugoliaeth neu i fedd. |