| (Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon | |
| (1, 0) 222 | Nid neuadd brenin, ond neuadd y brenin-fardd; |
| (1, 0) 223 | Nid brebliach llysoedd, ond llais Eneiniog Duw |
| (1, 0) 224 | Y dysgais ganu ei salmau wrth lin fy mam |
| (1, 0) 225 | Ar delyn faelwyd. Hynny, f'Arglwydd Joab, |
| (1, 0) 226 | A'm dug i yma; nid uchelgais ddim. |
| (Joab) {Tan wenu.} | |
| (Joab) Estynnodd Israel o Dan hyd Beerseba! | |
| (1, 0) 230 | Hwy fydd ei glod fel bardd na hyd yn oed |
| (1, 0) 231 | Ei glod fel brenin; fe fydd swyn ei salm |
| (1, 0) 232 | Ar wefus cenedlaethau. Ac am hyn, |
| (1, 0) 233 | Fy Arglwydd Joab, y mynnwn weld ei wedd, |
| (1, 0) 234 | A chanu'r delyn iddo. |
| (Joab) Abisâg, | |
| (Joab) Ac erfyn arno alw am Absalom. | |
| (1, 0) 242 | Mi gadwaf air fy llw, a mentro Peinioes |
| (1, 0) 243 | Trwy enwi'r enw nad yngana neb; |
| (1, 0) 244 | Am hyn, gweddïa drosof. |
| (Joab) Ar fy llw, | |
| (1, 0) 251 | Dŷ Dafydd, fe'th fendithiaf ar dy drothwy. |
| (1, 0) 252 | Duw a'th eneinio'n wastad â'i dangnefedd. |
| (Joab:) Amen i hynna,—o galon hen ryfelwr! | |
| (Joab) A'i thannau wedi llacio ers llawer dydd. | |
| (1, 0) 288 | Fe ellir eu tynhau. |
| (Joab) Gwir, delynores. | |
| (Joab) Gwir, delynores. | |
| (1, 0) 290 | A'i hailgyweirio'n hyfryd. |
| (Joab) {Gan godi'r delyn oddi ar yr hoel a'i hestyn at yr eneth.} | |
| (Joab) Cymer hi! | |
| (1, 0) 294 | Y delyn a fu'n canu Salmau Dafydd, |
| (1, 0) 295 | Pwy ydwyf fi i'w chyffwrdd? |
| (Joab) Cymer hi! | |
| (Joab) O dan dy law dychweled Duw ei rhin. | |
| (1, 0) 302 | Delyn y bugail-lanc! Rho eto gân |
| (1, 0) 303 | Fel yn y dyddiau pan wrandawai'r praidd |
| (1, 0) 304 | Dy dannau'n tiwnio gerllaw'r dyfroedd tawel |
| (1, 0) 305 | Nes aros ar eu pori; ac yntau'n cwafrio |
| (1, 0) 306 | "Yr Arglwydd yw fy mugail." Neu rho'r gân |
| (1, 0) 307 | A genaist am y sêr, gwaith bysedd Duw |
| (1, 0) 308 | Ar sidan glas y nefoedd,—a pheth yw dyn |
| (1, 0) 309 | I'w Grëwr ei gofio ac ymweled ag ef? |
| (1, 0) 310 | Deffro, O delyn Dafydd! Llawenha, |
| (1, 0) 311 | Fel yn y dydd pan gyrchodd ef yr Arch, |
| (1, 0) 312 | Â dawns gorfoledd o dŷ Obed-Ebdom, |
| (1, 0) 313 | A'th dannau dithau'n dawnsio tan ei law |
| (1, 0) 314 | I'r Hwn sy'n ymddisgleirio rhwng y ceriwbiaid. |
| (1, 0) 315 | Delyn, a fu'n iacháu drwg ysbryd Saul, |
| (1, 0) 316 | Cân eto i iacháu drwg ysbryd Dafydd; |
| (1, 0) 317 | Tydi'n offeryn gobaith yn fy llaw, |
| (1, 0) 318 | A minnau yn offeryn yn Llaw Dduw. |
| (Cŵsi) {O'r golwg.} | |
| (1, 0) 387 | Nid caethferch, Gapten. Merch pendefig wyf. |
| (Joab) Ac nid fel gordderch y daeth-hi at y Brenin. | |
| (Joab) Fel Abner, hen gadfridog byddin Saul! | |
| (1, 0) 429 | Eistedd, Dywysog bach. |
| (Meffiboseth) {Yn ufuddhau.} | |
| (Meffiboseth) A'r haul fel gwayw tanbaid trwy fy mhen. | |
| (1, 0) 437 | Does dim fel sudd y grawnwin i'th adfywio. |
| (1, 0) 438 | Cymer a bwyta'r rhain, Dywysog bach. |
| (1, 0) 442 | Ac nid arglwyddes finnau,—ond ar delyn. |
| (Meffiboseth) {Gan wenu yntau am y tro cyntaf.} | |
| (Meffiboseth) Na minnau'n arglwydd, ond ar gerfio coed. | |
| (1, 0) 445 | 'Rwyt tithau'n grefftwr?... Dwed im beth a gerfi. |
| (Meffiboseth) Llun carw a ddihangodd rhac y cŵn | |
| (1, 0) 454 | Maddau foesau llys |
| (1, 0) 455 | Crachach fel hwn na wybu urddas Saul. |
| (Beneia) Dydd da i'n Twysog Solomon, lleufer llys. | |
| (Solomon) A phwy wyt ti? | |
| (1, 0) 486 | Myfi yw Abisâg, |
| (1, 0) 487 | Dy wasanaethferch, Dwysog, o fro Sŵnem, |
| (1, 0) 488 | A ddaeth i ganu i'th Dad, y Brenin claf. |
| (Joab) Y delynores orau yn y deyrnas. | |
| (Solomon) O Sŵnem, ddwedaist-ti? | |
| (1, 0) 498 | Ie, Dywysog. |
| (Solomon) Mi glywais glod ei chân i Rosyn Saron, | |
| (Solomon) Rhaid iti ei dysgu imi. | |
| (1, 0) 501 | Anrhydedd fydd. |
| (Beneia) Yr olaf o Dŷ Saul yw'r efrydd hwn. | |
| (Meffiboseth) A phedair saeth trwy'i fron. | |
| (1, 0) 515 | Mab ydyw hwn |
| (1, 0) 516 | I'r Twysog Jonathan, cyfaill mawr dy dad. |
| (Solomon) Roedd hynny cyn fy ngeni; 'chlywais-i ddim | |
| (1, 0) 621 | Ac yn nhŷ Machir |
| (1, 0) 622 | Y bu'n preswylio hyd heddiw fel gwerinwr, |
| (1, 0) 623 | Heb dir na chyfoeth, ond y ddawn a roes Duw |
| (1, 0) 624 | I'w ddwylo cywraint, yn lle'i efrydd draed. |
| (1, 0) 625 | Mae'n ennill ei fywoliaeth fel cerfiwr coed |
| (1, 0) 626 | A lluniwr cistiau celfydd. {Gan benlinio.} Trugarha, |
| (1, 0) 627 | Frenhines deg;—ymbil am einioes crefftwr. |
| (Bathseba) A phwy wyt ti sy'n gofyn imi ymbil? | |
| (Bathseba) A phwy wyt ti sy'n gofyn imi ymbil? | |
| (1, 0) 629 | Dy wasanaethferch Abisâg, f'arglwyddes, |
| (1, 0) 630 | A ddaeth i ganu i'r Brenin. |
| (Solomon) O Sŵnem, Mam, | |
| (1, 0) 646 | Nid gordderch wyf, f'arglwyddes. |
| (Bathseba) {Yn ymbwyllo beth.} | |
| (Bathseba) {Yn diosg breichled a'i hestyn iddi.} | |
| (1, 0) 665 | Ni cheisiaf wobr. |
| (Bathseba) Ond gwisg hi'n arwydd cymod. | |
| (1, 0) 668 | Byth nid ymedy â'm braich, Frenhines Israel. |
| (Bathseba) Cyfod. Rhaid imi dy gofleidio di. | |
| (Bathseba) {Cyfyd y Frenhines yr eneth ar ei thraed a'i chofleidio mewn cymod.} | |
| (1, 0) 671 | F'arglwyddes, trugarha wrth Meffiboseth, |
| (1, 0) 672 | Y crefftwr nas dirymodd gwawd y Capten, |
| (1, 0) 673 | A derbyn yntau gyda mi i'th gymod. |
| (Bathseba) {Gan wenu ar y ddau.} | |
| (Bathseba) Er bwrw'i flinder ysbryd? | |
| (1, 0) 691 | Caniatâ |
| (1, 0) 692 | Im ganu cân yn gyntaf, fwyn arglwyddes, |
| (1, 0) 693 | O barch i ddewrder y bachgennyn hwn. |
| (Solomon) Pa gân fydd honno? | |
| (1, 0) 696 | Y gân a wnaeth dy dad |
| (1, 0) 697 | Mewn galar am ei dad, pan ddaeth newyddion |
| (1, 0) 698 | Am gwymp ei gyfaill pennaf yn Gilboa. |
| (1, 0) 699 | Gwrando hi, Meffiboseth, a barna di |
| (1, 0) 700 | A raid it ofni'r gŵr a ganodd hyn |
| (1, 0) 701 | Am ddewrder Jonathan a'i garïad ato: |
| (1, 0) 703 | ~ |
| (1, 0) 704 | Pa fodd y cwympodd Llyw mor ddewr |
| (1, 0) 705 | A grymus yn y gad? |
| (1, 0) 706 | Pa le 'r oedd nawdd ei fryniau ban |
| (1, 0) 707 | A hen allorau'i wlad? |
| (1, 0) 708 | ~ |
| (1, 0) 709 | Fryniau Gilboa, na ddoed mwy |
| (1, 0) 710 | I'ch oeri law na gwlith, |
| (1, 0) 711 | Am dywallt ffrydlif boeth o waed |
| (1, 0) 712 | Tywysog Duw i'ch plith. |
| (1, 0) 713 | ~ |
| (1, 0) 714 | Cynt oeddit nag yw'r eryr chwim, |
| (1, 0) 715 | A chryfach nag yw'r llew; |
| (1, 0) 716 | Beth ddarfu i'th darian rhag y saeth? |
| (1, 0) 717 | Beth ddarfu i'th gleddyf glew? |
| (1, 0) 718 | ~ |
| (1, 0) 719 | Llesg wyf gan hiraeth ar dy ôl, |
| (1, 0) 720 | Fy nghymrawd Jonathan; |
| (1, 0) 721 | Tu hwnt i gariad gwragedd oedd |
| (1, 0) 722 | Y cariad ddaeth i'n rhan. |
| (1, 0) 723 | ~ |
| (1, 0) 724 | O Ardderchowgrwydd Israel, dwfn |
| (1, 0) 725 | Fy nghlwyf a di-wellhad. |
| (1, 0) 726 | Pa fodd y cwympodd Llyw mor ddewr |
| (1, 0) 727 | A grymus yn y gad? |
| (Bathseba) Fy Arglwydd Frenin! | |
| (Dafydd) Pwy wyt ti? | |
| (1, 0) 798 | Dy wasanaethferch Abisâg, O Frenin, |
| (1, 0) 799 | A Sŵnamês. |
| (Dafydd) Ple dysgaist ti fy nghân? | |
| (Dafydd) Ple dysgaist ti fy nghân? | |
| (1, 0) 801 | Fe'i dysgais gartref, f'arglwydd, gan fy nhad. |
| (1, 0) 802 | Yr oedd o'n un o'th gedyrn gynt, ar herw, |
| (1, 0) 803 | A'i enw yw Eleasar. |
| (Dafydd) {Yn llawen.} | |
| (Dafydd) Pa fodd y ffynna fy hen gymrawd gynt? | |
| (1, 0) 812 | Yn dda, fy arglwydd, ar y tir a roddaist |
| (1, 0) 813 | Yn wobr hen filwr iddo yn Sŵnem ffrwythlon; |
| (1, 0) 814 | A'r llaw fu'n glynu wrth gledd yn glynu wrth gryman. |
| (Dafydd) A chanddo y dysgaist fy ngalarnad? | |
| (Dafydd) A chanddo y dysgaist fy ngalarnad? | |
| (1, 0) 816 | Ie, |
| (1, 0) 817 | A'th salmau gan fy Mam, sy'n Sŵnamês, |
| (1, 0) 818 | A hi a ddysgodd imi ganu'r delyn. |
| (Dafydd) {Yn atgofus.} | |
| (1, 0) 836 | I Dduw bo'r clod, a'm cymerth i'n offeryn. |
| (Dafydd) 'Rwy'n hen a blin, ond hoffwn petai'r llais | |
| (Dafydd) Yn ei fynediad a'i ddyfodiad fyth. | |
| (1, 0) 840 | Nid am dy fod yn frenin, nid am fod |
| (1, 0) 841 | Arswyd dy gledd ar wledydd ein gelynion, |
| (1, 0) 842 | Nid am fod clod it fel gwladweinydd mawr, |
| (1, 0) 843 | Ond am dy fod yn fardd, a rhin y wawr |
| (1, 0) 844 | Ddihenydd yn dy gân yn mynd i ddeffro |
| (1, 0) 845 | Dychymyg glân ieuenctid llawer oes, |
| (1, 0) 846 | Fel y deffrodd hi finnau; |
| (1, 0) 848 | Dy delynores ydwyf heddiw a byth. |
| (Dafydd) {Â'i law ar ei phen mewn bendith.} | |
| (1, 0) 861 | Un wobr a geisiaf fi am ganu i'r Brenin— |
| (1, 0) 862 | Ei weld yn llawen, weddill dyddiaw'i oes. |
| (Dafydd) {Tan wenu.} | |
| (Dafydd) A pheth yw rhin llawenydd, lances fwyn? | |
| (1, 0) 865 | Mae'i rin yn syml—gellit ei roi mewn gair. |
| (Dafydd) Dysg imi'r gair, ac fel mai byw yr Arglwydd, | |
| (Dafydd) Mi a'i llefaraf yng ngwylfeydd y nos. | |
| (1, 0) 868 | Gair dy lawenydd di yw—"Absalom." |
| (1, 0) 877 | Anfon dy fodrwy iddo i Gesŵr |
| (1, 0) 878 | Yn arwydd cymod. Nid oes llonder mwy |
| (1, 0) 879 | Na llonder tad sydd wedi maddau i'w fab. |
| (1, 0) 881 | Er mwyn llawenydd, galw Absalom! |
| (Ahitoffel) Er mwyn y llwythau, galw Absalom! | |
| (2, 1) 1290 | Na sonied F'arglwydd frenin ddim am waddod. |
| (2, 1) 1291 | Wele, mi ddygais iddo gwpan arian |
| (2, 1) 1292 | Yn llawn gwin melys, peraroglus. Cesglais |
| (2, 1) 1293 | Y llysiau llesol, pêr, â'm llaw fy hun |
| (2, 1) 1294 | A'u trwytho yn y gwin er twymo'i ysbryd. |
| (2, 1) 1295 | Atolwg iddo yfed. |
| (Dafydd) {Yn cymryd y cwpan.} | |
| (Hŵsai) A'i hulio â blodau hyfryd yn feunyddiol. | |
| (2, 1) 1303 | A fyn fy arglwydd fynd i rodio heddiw? |
| (2, 1) 1304 | Cyrchais dy fantell. |
| (Dafydd) Mynnaf, Abisâg. | |
| (Dafydd) A ddoi-di gyda mi? Cei weld yr Arch. | |
| (2, 1) 1309 | Yn llawen, f'arglwydd. |
| (Dafydd) Y Cynghorwr Hŵsai, | |
| (Dafydd) Tyrd dithau gyda ni i drefnu'r Wyl. | |
| (2, 1) 1312 | Pa Wyl yw honno? |
| (Ahimâs) Henffych well i'r Brenin! | |
| (Dafydd) Cyfod, a hebrwng ni at Was yr Arglwydd. | |
| (2, 1) 1332 | A diolch am dyredeg... 'Fynni-di win? |
| (Ahitoffel) Nid cwrtais yfed dwfr yn Llys y Brenin. | |
| (2, 1) 1336 | Nid gwaeth a yfo i'r Brenin mewn dwfr oer |
| (2, 1) 1337 | Os yw ei fron heb frad. |
| (2, 1) 1339 | A dyma ddwfr. |
| (Absalom) Dy enw yw Ahimâs? | |
| (Dafydd) Y ddau can sicl oll yn wobr iti. | |
| (2, 1) 1374 | A minnau'r eurdlws hwn sydd ar fy mron. |
| (Ahimâs) Yn ffydd fy mrenin fyth ni allaf fethu. | |
| (2, 1) 1378 | A'm hymddiriedaeth innau, Ahimâs? |
| (Ahimâs) {Yn ymateb yn deimladwy gan ymgrymu iddi.} | |
| (Joab) Salm gyda'r tannau. | |
| (2, 2) 1567 | Yn llawen. Dyma salm |
| (2, 2) 1568 | A wnaeth y Brenin at y dwthwn hwn |
| (2, 2) 1570 | ~ |
| (2, 2) 1571 | Llonder y Brenin yn ddi-lyth, |
| (2, 2) 1572 | O Arglwydd, yw dy nerth; |
| (2, 2) 1573 | A'i holl hyfrydwch a fydd byth |
| (2, 2) 1574 | Preswylydd Mawr y Berth. |
| (2, 2) 1575 | ~ |
| (2, 2) 1576 | Achubaist flaen ei weddi daer |
| (2, 2) 1577 | A hael rasusau'r nen; |
| (2, 2) 1578 | Gosodaist, megis coron aur, |
| (2, 2) 1579 | Lawenydd ar ei ben. |
| (2, 2) 1580 | ~ |
| (2, 2) 1581 | Oherwydd iddo wneud ei nyth |
| (2, 2) 1582 | Yng nghysgod allor Duw, |
| (2, 2) 1583 | Y Brenin nid ysgogir byth... |
| (Cŵsi) Brad! Brad!! Brad!!! | |
| (Dafydd) Yn Sŵnem. Mi anfonaf was i'th hebrwng. | |
| (2, 2) 1721 | Nac erfyn arnaf i ymado â thi, |
| (2, 2) 1722 | Fy Iôr a'm Brenin tirion. Oni ddwedais |
| (2, 2) 1723 | "Dy delynores ydwyf heddiw a byth?" |
| (2, 2) 1724 | Lle trig fy Mrenin, yno y trigaf i. |
| (Ahimâs) Cyfarch ffyddlonaf oddi wrth fy nhad Sadoc, | |
| (2, 2) 1752 | Ffarwel, Ahimâs. |
| (Joab) Utgorn Beneia! Mae'r Gwŷr o Gard yn disgwyl. | |
| (Meffiboseth) Syrthiodd yr haul o'r wybren. Beth a wnaf? | |
| (2, 2) 1769 | Dangos dy rodd i'r Brenin. |
| (Meffiboseth) Mae'n rhy hwyr! | |
| (Meffiboseth) Mae'n rhy hwyr! | |
| (2, 2) 1771 | Bu'n cerfio cist, i'w Frenin gadw'r goron |
| (2, 2) 1772 | Ynddi bob nos; a'i fwriad oedd cyflwyno |
| (2, 2) 1773 | Ei waith yn anrheg heno wedi'r wledd. |
| (Dafydd) Pa le y mae hi? | |
| (Dafydd) Pa le y mae hi? | |
| (2, 2) 1775 | Cuddiodd hi tan y fainc |
| (2, 2) 1776 | Nes dod o'r awr. |
| (Meffiboseth) {Mewn dagrau.} | |
| (2, 2) 1805 | Ni fu dim siawns i'w chyrchu. |
| (Ahimâs) {Yn diosg ei fantell fer ei hun a'i gosod o'r tu ôl yn dyner ar ei hysgwyddau hi.} | |
| (2, 2) 1810 | Ahimâs, |
| (2, 2) 1811 | Duw a'th warchodo nes cawn eto gwrdd. |
| (Absalom) {Yn gweinio'i gledd.} | |
| (Joab) {Diffydd ei lantern.} | |
| (3, 1) 2278 | Rhoed Duw mai gwir y goel. |
| (3, 1) 2302 | A'r rhain fydd heddiw'n penderfynu tynged |
| (3, 1) 2303 | Achos ein Brenin. |
| (Dafydd) Buont ffyddlon imi, | |
| (Dafydd) Mi wnaf. | |
| (3, 1) 2373 | Os myn y Brenin, af yn awr |
| (3, 1) 2374 | I'w llety yn y ddinas er mwyn deffro'r |
| (3, 1) 2375 | Frenhines a'r Tywysog Solomon i weled |
| (3, 1) 2376 | Y fyddin yn ymdeithio i'r frwydyr. |
| (Dafydd) Na, | |
| (Joab) Dowch, Ahimâs a Chŵsi! Glynwch wrthyf! | |
| (3, 1) 2410 | Gwisg hon yn arwydd rhyngom yn y frwydyr, |
| (3, 1) 2411 | A'i rhin a'th amddifynno. |
| (Ahimâs) {Dan deimlad dwys gan ei gwasgu unwaith i'w gôl yn gyflym cyn martsio allan ar ôl ei Gadfridog.} | |
| (3, 1) 2428 | Eled fy Arglwydd Frenin i orffwyso; |
| (3, 1) 2429 | Bu'r straen yn ormod iti. Cwsg ychydig. |
| (Dafydd) Ni allaf gysgu, a'm byddin ar ei ffordd | |
| (Dafydd) Er mynd i orwedd dro. | |
| (3, 1) 2443 | Coffa it ganu, |
| (3, 1) 2444 | Yn ifanc, am ryw Fugail Da a'th ddug |
| (3, 1) 2445 | O'th wae i borfa ir ger dyfroedd tawel, |
| (3, 1) 2446 | Ac yno adfywhau dy enaid blin... |
| (3, 1) 2447 | Dos gyda'r Capten, gorwedd ar dy wely |
| (3, 1) 2448 | Am orig, ac mi ganaf tan y ffenest |
| (3, 1) 2449 | Dy salm yn lle hwiangerdd... Pwy a ŵyr |
| (3, 1) 2450 | Na rydd y Bugail eto hun i ti, |
| (3, 1) 2451 | Fel i'w anwylyd? |
| (Dafydd) Ac fe elwch arnaf? | |
| (3, 1) 2465 | Hist! A thosturia, ddyn, wrth galon tad. |
| (Beneia) {Yn ffyrnig ddistaw wrth groesi'n ôl i'w le fel gwyliwr ar y Ddisgwylfa.} | |
| (3, 1) 2470 | Yr Arglwydd yw fy Mugail cu, |
| (3, 1) 2471 | Am hynny llawenhaf, |
| (3, 1) 2472 | Gorffwysfa deg mewn porfa ir |
| (3, 1) 2473 | Ger dyfroedd clir a gaf. |
| (3, 1) 2474 | ~ |
| (3, 1) 2475 | Ei ofal Ef sy'n adfywhau |
| (3, 1) 2476 | Yr enaid mau bob awr; |
| (3, 1) 2477 | Hyd union ffordd y deil i'm dwyn |
| (3, 1) 2478 | Er mwyn ei enw mawr. |
| (3, 1) 2479 | ~ |
| (3, 1) 2480 | Er rhodio Glyn y Dychryn Du |
| (3, 1) 2481 | A'r niwl o'm deutu'n daen, |
| (3, 1) 2482 | Os oes gelynion yno 'nghudd, |
| (3, 1) 2483 | Y Bugail fydd o'm blaen. |
| (3, 1) 2484 | ~ |
| (3, 1) 2485 | Fe'm dwg i'w babell rhag pob clwy |
| (3, 1) 2486 | At arlwy rasol iawn, |
| (3, 1) 2487 | Pêr olew croeso fydd fy rhan |
| (3, 1) 2488 | A gwin mewn cwpan llawn. |
| (3, 1) 2489 | ~ |
| (3, 1) 2490 | Daioni 'Mugail sy'n parhau |
| (3, 1) 2491 | A'i drugareddau i gyd; |
| (3, 1) 2492 | A byth ni dderfydd croeso'r wledd |
| (3, 1) 2493 | Yn hedd ei babell glyd. |
| (3, 2) 2507 | Welaist-ti rywbeth eto? Oes rhyw arwydd? |
| (Beneia) {Yn goeglyd.} | |
| (Beneia) Peth braf yw gallu cysgu ar ganol brwydr. | |
| (3, 2) 2510 | Chefais-i ond cyntun byr... A oes rhyw newid? |
| (Beneia) Dim newid, na dim arwydd, na dim sŵn. | |
| (Beneia) A rhu cynddaredd ei ddialwyr ef. | |
| (3, 2) 2527 | Ton brwydr, yn ôl a blaen, a thynged gwlad |
| (3, 2) 2528 | Yn hongian ar ei brig. Eto, ers oriau |
| (3, 2) 2529 | Pam na ddôi sŵn hyd yma o graidd y Fforest |
| (3, 2) 2530 | I ddweud eu hynt?... Gwrando!... Mor dawel yw. |
| (3, 2) 2531 | Y miloedd ynddi'n marw'r funud hon, |
| (3, 2) 2532 | Eto dim siw na miw i siglo'r prennau, |
| (3, 2) 2533 | Dim sŵn ym mrig y morwydd. |
| (3, 2) 2534 | ~ |
| (3, 2) 2535 | Ni chyffroir |
| (3, 2) 2536 | Tawelwch natur gan gymhelri dyn |
| (3, 2) 2537 | A'i nwydau gwallgof. Heno twynna'r lloer |
| (3, 2) 2538 | Rhwng cangau'r coed ar oer wynebau'r meirwon |
| (3, 2) 2539 | Heb wahaniaethu dim rhwng ffrind a gelyn. |
| (Beneia) Gobeithio i Dduw y bydd Absalom yn eu plith. | |
| (Beneia) Gobeithio i Dduw y bydd Absalom yn eu plith. | |
| (3, 2) 2541 | Yr wyt ti'n galed. |
| (Beneia) Caled yw gair y nef | |
| (Beneia) Eryrod rheibus sydd i fwyta'i gnawd." | |
| (3, 2) 2548 | Och! Meddwl am ei dad. |
| (Beneia) Tad a genhedlo ffŵl, hyd ddydd ei dranc. | |
| (3, 2) 2552 | Edrych!... Ar y gwastadedd... Gŵr yn rhedeg! |
| (Beneia) Negesydd ydyw!... Galw ar y Brenin | |
| (Dafydd) Ha! Os ei hun y mae, negesydd yw. | |
| (3, 2) 2574 | Ynawr 'rwy'n ei adnabod... Cŵsi ddu! |
| (Dafydd) Negesydd Joab. Bydded wyn ei neges. | |
| (3, 2) 2581 | Fy Mrenin, 'rwy'n ei nabod... Ahimâs! |
| (Dafydd) Llanc da yw hwnnw. Newyddion da sydd ganddo. | |
| (Dafydd) Llanc da yw hwnnw. Newyddion da sydd ganddo. | |
| (3, 2) 2583 | Coffa i'r Brenin ddweud y gwystlai'i goron |
| (3, 2) 2584 | Y trechai'r bachgen Cŵsi mewn tri mis; |
| (3, 2) 2585 | A gwir y gair. |
| (Beneia) {Yn llawn cyffro, yntau.} | |
| (Dafydd) Beth a ddywed hi? | |
| (3, 2) 2630 | Am ei ffyddlondeb mawr i'w Frenin rhoddais |
| (3, 2) 2631 | Fy serch ar Ahimâs o'r cychwyn. Heddiw, |
| (3, 2) 2632 | A'r nefoedd wedi ei ddwyn o safn marwolaeth, |
| (3, 2) 2633 | Fe'i caraf fel fy ngŵr a'm harglwydd byth. |
| (3, 2) 2634 | Yn ôl dy lw, atolwg, gwrando'i gais. |
| (Dafydd) Haws, petai wedi gofyn hanner fy nheyrnas! | |
| (Dafydd) Ar henaint heb dy gân. | |
| (3, 2) 2638 | Ac ni bydd rhaid. |
| (3, 2) 2639 | Arhosaf yn dy Lys fel telynores, |
| (3, 2) 2640 | A gwna fy ngŵr yn Gapten ar dy Gedyrn |
| (3, 2) 2641 | Am ei wrhydri trosot. |
| (Dafydd) {Yn ei ddyrchafu ar ei draed, a'i droi i'w chwith, a chyflwyno Abisâg iddo.} | |
| (Dafydd) Wyt ti'n fodlon? | |
| (3, 2) 2648 | O frenin mawr, haelfrydig. |
| (3, 2) 2736 | Mae'n ormod iddo! O! mae'n ormod iddo! |
| (3, 2) 2737 | Gan y fath alar chwerw tyr ci galon |
| (3, 2) 2738 | Os dônt i mewn i'r ddinas mewn gorfoledd |
| (3, 2) 2739 | Yn sŵn y bib a'r drwm... Dos, Ahimâs, |
| (3, 2) 2740 | Os wyt-ti yn fy ngharu, rhed i'w hatal, |
| (3, 2) 2741 | Ac erfyn arnynt ddod trwy'r porth yn dawel |
| (3, 2) 2742 | I'r ddinas, o ran parch i ing y brenin |
| (3, 2) 2743 | A'i alar am e ifab... Rhed, Ahimâs. |
| (Dafydd) {Drwy'r ffenestr.} | |
| (3, 2) 2752 | Ni allaf oddef mwy. |
| (3, 2) 2754 | Er mwyn trugaredd, diffodd fflam y ffaglen. |
| (3, 2) 2755 | O flaen y faner, er tawelu'r llu. |
| (3, 2) 2756 | Mae'u trwst yn sicr o ladd y Brenin. |
| (Beneia) Beth? | |
| (Dafydd) Absalom! | |
| (3, 2) 2764 | Rhaid imi ddiffodd fflam y ffaglen yna! |
| (3, 2) 2771 | Diolch i Dduw, 'roedd Ahimâs mewn pryd. |
| (Beneia) {Yn edrych i lawr o'r Ddisgwylfa.} | |
| (3, 2) 2781 | Diolch i Dduw, fe lwyddodd Ahimâs. |
| (Joab) Pe le mae'r Brenin?... Pe le mae ffrind y bradwyr? | |
| (Joab) O'i ŵyr ffyddlonaf? | |
| (3, 2) 2787 | Aros, Gadfridog; |
| (3, 2) 2788 | Mae'r Brenin yn ei stafell, —wedi ei glwyfo. |
| (Joab) "Ei glwyfo," meddai hi! Welodd-o'r gwaed | |
| (Joab) {Gan gyffwrdd â'i glun.} | |
| (3, 2) 2793 | Joab, trugarha |
| (3, 2) 2794 | Gad iddo efo'i alar am ei fab |
| (3, 2) 2795 | Yr un nos hon. Deued y fyddin adref |
| (3, 2) 2796 | Yn ddistaw bach drwy'r Porth rhag torri ei galon. |